Yn ddiweddar, cawsom sgwrs â dau o’n Cyn-fyfyrwyr Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol o Goleg Castell-nedd i ddarganfod sut mae’r cymwysterau a enillwyd ganddynt yng Ngrŵp Colegau NPTC wedi agor posibiliadau llwybr gyrfa iddynt.
Dychwelodd Jonathan Thomas i addysg yng Ngrŵp Colegau NPTC yn 2014 yn 24 oed. Gadawodd yr ysgol yn 16 gyda thair TGAU a mynd i fyd gwaith.
Cafodd Jonathan lawer o swyddi gwahanol cyn dychwelyd i addysg, a’r prif un oedd cynorthwyydd dosbarth mewn ysgol uwchradd. Roedd yn ei chael yn anodd symud ymlaen o fewn swyddi oherwydd nad oedd ganddo’r cymwysterau i wneud hynny. Aeth i weld y cynghorydd gyrfaoedd yn yr ysgol yr oedd yn gweithio ynddi i weld beth oedd ei opsiynau. Gofynnodd iddo a oedd wedi clywed am Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC); cymhwyster galwedigaethol Lefel 4. Chwiliodd am gyrsiau HNC Technoleg Gwybodaeth a Digidol a Grŵp Colegau NPTC oedd yr opsiwn cyntaf i ymddangos. Ffoniodd a siarad ag un o’r darlithwyr a’i gwahoddodd i mewn am gyfweliad. Yna cafodd ei gofrestru ar gwrs HNC a ddechreuodd dri mis yn ddiweddarach.
Astudiodd Jonathan ei HNC mewn Cyfrifiadura a Datblygu Systemau yn rhan-amser yng Ngholeg Castell-nedd am ddwy flynedd, gan wneud dosbarthiadau nos ddwywaith yr wythnos. Ar ôl cwblhau hyn symudodd ymlaen i Ddiploma Cenedlaethol Uwch Lefel 5 (HND) mewn Cyfrifiadura a Datblygu Systemau. Astudiodd ei HND yn amser llawn dros ddwy flynedd. Cwblhaodd Jonathan ei bedair blynedd o astudiaethau yng Ngholeg Castell-nedd trwy astudio am radd atodol BSc Cyfrifiadura a Systemau Gwybodaeth.
Mwynhaodd Jonathan ei amser yn y Coleg gan ddweud:
“Mae mynd o weithio ym myd addysg i ddod yn ddisgybl eto yn drawsnewidiad mawr ond yn bersonol roedd mynychu’r dosbarthiadau nos wedi fy helpu gan fy mod gyda phobl o’r un anian, ac roedd pawb yn rhannu’r un nodau. Roedd llawer mwy o gefnogaeth yno ac roedd y darlithwyr yn deall eich sefyllfa.
“Roeddwn i wrth fy modd yn dod i’r coleg ac roedd yn bleserus iawn. Pan ddechreuais i, roeddwn i braidd yn gyndyn gan fy mod yn bump neu chwe blynedd yn hŷn na’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr ar y cwrs. Ond o fewn wythnosau roedden ni wedi ffurfio cyfeillgarwch da fel grŵp, ac roedden ni i gyd wedi gweithio’n dda gyda’n gilydd”.
Ers gadael y coleg, mae Jonathan wedi cwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ac mae bellach yn athro Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadura mewn ysgol uwchradd yn Abertawe. Bwriad Jonathan bob amser oedd mynd i addysgu ar ôl cwblhau ei astudiaethau. Ar ôl gweithio ym myd addysg o’r blaen fel cynorthwyydd dosbarth, roedd yn gwybod mai dyna’r opsiwn cywir iddo.
Paratôdd y Coleg ef ar gyfer pob posibilrwydd, a theimlai ei fod yn gwbl barod am ei rôl newydd mewn ysgol. Fodd bynnag, mae’n cyfaddef iddo gael cynigion deniadol ar ôl cwblhau ei astudiaethau, gan fynd i gyfweliadau gyda chwmnïau mawr a chael cynnig sawl swydd mewn tai meddalwedd lleol.
“Es i am gyfweliad gyda chwmni datblygu meddalwedd lleol yn Abertawe, ac roedden nhw’n canmol nid yn unig fi ond hefyd yr hyn roeddwn i wedi’i ddysgu ar y cwrs. Roeddent yn gallu cydnabod bod y sgiliau yr oeddwn wedi’u hennill yn union yr hyn yr oeddent eu heisiau yn y gweithle”.
Mae Jonathan yn teimlo bod ei astudiaethau yng Ngholeg Castell-nedd wedi rhoi profiad cyflawn iddo ac y gallai fod wedi symud ymlaen i unrhyw swydd yn y diwydiant Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol.
“Rydych chi’n cael y wybodaeth dechnegol ac academaidd o fod yn y Coleg ond i mi, a minnau eisiau bod yn athro, fe wnes i hefyd ddysgu llawer am sut i addysgu hefyd. Mae gan rai o’r adnoddau rwy’n dal i’w defnyddio heddiw a’r pethau rwy’n eu creu gysylltiad uniongyrchol â’r hyn a ddysgais yn y dosbarth. Ni allwn fod wedi gofyn am ddim mwy, roedd yn brofiad gwych. Roedd y darlithwyr yn wych, maent yn wybodus ac yn brofiadol ar ôl gweithio yn y diwydiant eu hunain ac yn dod â dyfnder gwirioneddol o ran gwybodaeth a phrofiad i’r hyn y maent yn ei addysgu ac mae hynny’n dod â’r pwnc yn fyw”.
Ar ôl gweld cymaint y mwynhaodd Jonathan ei amser yma, mae ei frawd ers hynny wedi dilyn yr un llwybr ag ef, gan ddod yn ôl i addysg yng Ngrŵp Colegau NPTC a chwblhau’r un cyrsiau. Mae bellach yn Ddylunydd Gwefannau hunangyflogedig. Mae’r grŵp o fyfyrwyr roedd Jonathan yn y coleg gyda hwy bellach yn gweithio yn y diwydiannau Technoleg a Chyfrifiadura, mewn swyddi fel Fforensig Digidol, Datblygu Gwefannau, Peirianneg Rhwydwaith, a Dylunio Gwefannau.
Mae gan Jonathan gyngor i unrhyw un sy’n ystyried astudio yng Ngrŵp Colegau NPTC:
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried cyrsiau fel y gwnes i yw dewis rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau. Os ydych chi’n mwynhau’r cynnwys, rydych chi’n mynd i roi mwy o waith i mewn a bod yn falch o’r hyn rydych chi’n ei gyflawni. Po fwyaf o falchder a gymerwch yn yr hyn a wnewch, y gorau fydd y canlyniadau. I’r rhai sy’n ystyried dychwelyd i addysg, ni allaf canmol fy mhrofiad ddigon, ac mae arnaf ddyled fawr i’r Coleg oherwydd iddynt gymryd siawns arnaf a rhoi pob arf oedd ei angen arnaf i’m gwneud yn llwyddiannus. Oni bai am y bobl yng Ngrŵp Colegau NPTC, ni fyddwn yn gwneud yr hyn yr wyf bob amser wedi breuddwydio am ei wneud.
“Mae Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol a’r sector Technoleg yn ei gyfanrwydd yn ffynnu, mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd. Os ydych chi’n chwilio am gwrs a fydd yn eich helpu i ddysgu, tyfu a phrofi’r byd yna edrychwch ddim pellach na chwrs Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol yng Ngrŵp Colegau NPTC”.
Ymunodd Michael O’Callaghan a astudiodd HND a Gradd mewn Cyfrifiadura â’r Coleg hefyd fel dysgwr oedd yn oedolyn. Mae Michael yn gweithio mewn rôl datblygu a dadansoddi data i gwmni sy’n arbenigo mewn diogelwch tân goddefol ar gyfer adeiladau uchel. Os hoffech chi wybod rhagor am Michael a’i brofiadau yng Ngrŵp Colegau NPTC, gwyliwch y fideo isod.
I gael gwybod rhagor am ein cyrsiau Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol cliciwch ar y ddolen isod.