Mynychodd myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth o Goleg Castell-nedd ddigwyddiad O Gymru i’r Byd yn y Senedd gan Bwyllgor Myfyrwyr Newydd Sefydliad Lletygarwch Cymru
Cymerodd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Choleg Castell-nedd rolau blaenllaw yn y digwyddiad a drefnwyd i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a rhwydweithio yn y Diwydiant Lletygarwch ledled Cymru a’r byd.
Mae O Gymru i’r Byd yn ddigwyddiad dwy ran a gynhelir gan Bwyllgor Myfyrwyr newydd Sefydliad Lletygarwch (IoH) Cymru, a gynhelir yn Adeilad hanesyddol y Pierhead a’r Senedd eiconig ym Mae Caerdydd. Bydd y digwyddiad yn helpu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn adeiladu gyrfa mewn Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau rwydweithio a chael cipolwg go iawn ar y diwydiant, tra hefyd yn annog y diwydiant i rwydweithio a chefnogi rheolwyr y dyfodol.
Wrth i’r Diwydiant Lletygarwch wella o Covid, mae’r sector yn wynebu prinder staff gweithredol a rheoli medrus, sy’n cynnig cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc symud yn gyflym i yrfa hynod lwyddiannus. I gefnogi hyn, mae’r digwyddiad yn gyfle i gynrychiolwyr y diwydiant a cheiswyr gyrfa ledled Cymru gyfarfod, ymgysylltu a thrafod dyfodol y sector.
Caiff astudiaethau achos bywyd go iawn o’r diwydiant a rhai myfyrwyr o Gymru a’r byd eu defnyddio i arddangos cyfleoedd cyffrous, gan helpu i hyrwyddo llwybrau gyrfa ac opsiynau hyfforddi ar draws Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau. Roedd siaradwyr blaenllaw y diwydiant yn cynnwys:
Damian Jenkins – Llywydd Adrannol The Management Trust California
Ed Sims – cyn Brif Weithredwr WestJet Canada
Heledd Williams – Pennaeth Digwyddiadau Busnes yn Digwyddiadau Cymru yn Llywodraeth Cymru
Helen John – Rheolwr Academi Bluestone Cymru
James Hayward MIH – Rheolwr Gwesty Coldra Court y Celtic Manor
Jessie Wakely – Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata yn Harbour Lights Spirits
Mike Phillipps – Cyn Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol a Chyfarwyddwr FabFour Coffee sy’n byw yn Dubai
Paula Ellis – Rheolwr Cyffredinol Grŵp Gwestai Retreats
Etholwyd Philippa Fitzgerald, myfyriwr Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol yn ei blwyddyn olaf yn PCYDDS, yn Gadeirydd cyntaf y pwyllgor myfyrwyr newydd. Dywedodd: “Mae’n anrhydedd cael fy ngwahodd i fod y Cadeirydd cyntaf. Mae’r swydd hon wedi rhoi’r cyfle i mi gysylltu â myfyrwyr gwych a chynrychiolwyr ysbrydoledig y diwydiant wrth ddatblygu sgiliau hanfodol i’w defnyddio yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae bod yn rhan o’r tîm gwych sy’n cynnal y digwyddiad pwyllgor myfyrwyr cyntaf ym mhrifddinas y wlad yn brofiad a fydd yn aros gyda mi am byth.”
Dywedodd Jacqui Jones, aelod o Bwyllgor Cangen IoH Cymru a Rheolwr Rhaglen ar gyfer y portffolio Twristiaeth, Digwyddiadau a Rheoli Cyrchfannau Hamdden yn PCYDDS: “Dyma gyfle gwych i ddathlu lansiad Pwyllgor Myfyrwyr newydd Sefydliad Lletygarwch Cymru, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion ledled Cymru gydweithio i gynrychioli dyfodol y diwydiant ac arddangos cyfleoedd gyrfa ar draws y sectorau Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau.
“Rwy’n falch iawn o weld myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr PCYDDS yn siarad yn y digwyddiad, gan ddangos rôl bwysig y Brifysgol wrth ddatblygu arweinwyr diwydiant y dyfodol.”
Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi a’i noddi gan yr Aelod o’r Senedd, David Rees.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein cyrsiau Teithio a Thwristiaeth yng Ngrŵp Colegau NPTC a’r cyfleoedd y gallwn eu cynnig i’n myfyrwyr.