Mae Grŵp Colegau NPTC yn cynnig cyrsiau rhan-amser am ddim i helpu unigolion, cymunedau a busnesau i ailafael ynddi wrth adfer ar ôl COVID.
Nid yn unig y bydd y cyrsiau’n helpu unigolion i ennill y sgiliau sydd eu hangen wrth i weithleoedd ddechrau gweithredu eto, ond bydd yn sicrhau bod cyflogwyr hefyd yn gallu cael gafael ar y bobl fedrus sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Wrth i fusnesau ddychwelyd i ryw normalrwydd ar ôl dwy flynedd o ansicrwydd yn dilyn y pandemig, mae’r Coleg, sydd â champysau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Maesteg, Pontardawe, Aberhonddu a’r Drenewydd, yn cynnig ystod eang o gyrsiau, y mae llawer ohonynt yn rhad ac am ddim neu wedi’u hariannu’n llawn i gefnogi’r rhai sy’n dymuno cael eu traed oddi tanynt unwaith eto.
Mae’r ystod o gyrsiau wedi’u llywio gan wybodaeth am y farchnad lafur* sy’n dangos bod tueddiadau yn y farchnad lafur yn newid, a rhagwelir y bydd y sectorau twf mwyaf ar gyfer De Orllewin Cymru a Chanolbarth Cymru mewn gwasanaethau cefnogi iechyd, llety a bwyd. Rhagwelir y bydd proffil cymwysterau cyflogaeth hefyd yn newid, gyda gostyngiad mewn swyddi sy’n gofyn am gymwysterau Lefel 2 neu’n is (lefel TGAU) ac yn lle hynny twf parhaus mewn swyddi sy’n gofyn am gymwysterau uwch. Credir erbyn 2027, y rhagwelir y bydd bron i hanner y swyddi yn Ne Orllewin Cymru a Chanolbarth Cymru angen cymhwyster Lefel 4 ac uwch (lefel diploma) – sy’n gynnydd sylweddol ar nifer y bobl sydd â chymwysterau ar y lefel honno ar hyn o bryd.
Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Bydd y cyrsiau rydym yn eu cynnig yn helpu unigolion i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wella eu rhagolygon gwaith neu newid eu llwybr gyrfa, tra ar yr un pryd yn helpu cyflogwyr i gael y gweithlu medrus sydd ei angen arnynt wrth symud ymlaen. Mae Covid wedi cael effaith aruthrol ar ein cymunedau ac rydym eisoes yn profi prinder sgiliau mewn sawl maes gan gynnwys y sector gofal iechyd a lletygarwch.
“Rydym am annog pobl i ddysgu sgiliau newydd a’u helpu i wneud cynnydd fel y gallwn helpu i gau’r bylchau hynny a dyna pam rydym yn cynnig llawer o gyrsiau am ddim.
“Bydd yr amrywiaeth o gyrsiau rydyn ni’n eu cynnig yn cefnogi ein cymunedau ac yn helpu cyflogwyr a gweithwyr, y mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu taro’n galed gan y pandemig.”
Mae ystod eang o gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim ar gael yn ogystal â llawer o gyrsiau Cyfrifon Dysgu Personol (CDP) sy’n galluogi unigolion i gael mynediad at amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser hyblyg a ariennir.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am gyrsiau
*Ffynhonnell: Nomis 2021