Mae pedwar cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC yn rhan o dimau rygbi Cymru ar gyfer Teithiau’r Haf.
Bydd y tîm dynion Cymru yn teithio i Dde Affrica’r haf hwn i chwarae cyfres o dair gêm yn erbyn Pencampwyr y Byd. Mae ein cyn-fyfyriwr Dan Lydiate wedi cael lle yn nhîm Cymru unwaith eto ar ôl gwella ar ôl anafiad tymor hir. Mae Adam Beard, sef cyn-fyfyriwr yn Academi Chwaraeon Llandarcy ac yn is-gapten yn ystod ymgyrch y Chwe Gwlad eleni yn ymuno ag ef.
Mae Cymru yn chwarae ei gêm gyntaf yn Pretoria, ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf, lle y bydd y ddau chwaraewr yn gobeithio cymryd rhan.
Mae tîm Cymru o dan 20 oed wedi cyhoeddi ei dîm o ddynion ar gyfer cyfres rygbi’r haf yn yr Eidal. Mae’r tîm yn cynnwys dau gyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC, Dan Edwards a Joe Hawkins. Bydd Cymru yn chwarae pedwar gêm yn ystod y gyfres, yn dechrau gyda’r Alban ddydd Sadwrn 25 Mehefin, ac wedyn gemau yn erbyn Georgia, Yr Eidal ac wedyn gêm ail gyfle terfynol.
Bydd Dan, sy’n gyn-fyfyriwr yn Academi Chwaraeon Llandarcy, yn anelu at adeiladu ar lwyddiant ei dymor disglair cyntaf yn Aberafan ar ôl ennill Gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn a Gwobr Chwaraewr Mwyaf Addawol. Bydd y cyn-ddisgybl yn YGG Ystalyfera, a greodd argraff yn ystod ymgyrch tîm Cymru o dan 20 oed ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gobeithio parhau ei ddatblygiad yn yr Eidal yr haf hwn
Bydd Joe, a astudiodd Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) yn Academi Chwaraeon Llandarcy yn arwain y tîm fel ei gapten yr haf hwn. Mae’r canolwr sy’n 20 oed wedi chwarae yn rheolaidd yn nhîm y Gweilch y tymor hwn a bydd yn mynd ati fel capten i arwain ei dîm at lwyddiant dros yr haf.
Hoffai pawb yng Ngrŵp Colegau NPTC ddymuno pob lwc i ddau dîm Cymru a’n pedwar cyn-fyfyriwr yn ystod y gemau dros yr haf.
Mae ceisiadau ar gael nawr ar gyfer mis Medi 2022. Cliciwch isod i gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Grŵp Colegau NPTC.