Yn ddiweddar, rhoddodd myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 yng Ngholeg y Drenewydd gyflenwadau bwyd i Ganolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn (MFCC). Dewisodd y myfyrwyr gyfrannu at yr elusen ar ôl iddynt ddod yn fwy ymwybodol o wasanaethau cymorth ar gyfer trais domestig yn dilyn statws Rhuban Gwyn y Coleg.
Mae Grŵp Colegau NPTC wedi derbyn Achrediad Rhuban Gwyn yn ymrwymo i ddatblygu a chyflwyno cynllun gweithredu cynhwysfawr i newid y diwylliannau sy’n arwain at gam-drin a thrais a hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.
Mae Canolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn yn cefnogi dynion, menywod a’u plant sy’n dioddef effeithiau cam-drin domestig.
Cyfarfu Swyddog Cyswllt Cymunedol MFFCC, Fleur Frantz-Morgans, â myfyrwyr a derbyn y rhodd ar ran yr elusen. Dywedodd Fleur, “Diolch i’r myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg y Drenewydd am gasglu bwyd ar gyfer ein ‘Pecynnau Croeso’ lloches, yn aml mae dioddefwyr cam-drin yn dod atom heb fawr o eiddo, os o gwbl, a bydd y bwyd hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan eu helpu i ddod drwy’r ychydig ddyddiau anodd cyntaf ar ôl dianc o berthynas gamdriniol.”
Dywedodd y Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Kate Preston: “Mae elusen MFCC yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl agored i niwed yng nghanolbarth Cymru. Roedd y myfyrwyr yn frwd dros gefnogi’r elusen ac rydym yn gwybod y bydd y rhodd yn cael ei defnyddio’n dda.”
Dylai unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig, yn poeni am rywun neu’n ceisio mwy o wybodaeth am wasanaethau MFCC, gysylltu â Ffôn: 01686 629114, e-bost admin@familycrisis.co.uk neu fynd i’r wefan www.familycrisis.co.uk.
Mae MFCC yn darparu gwasanaethau cynhwysfawr i’r rhai sy’n profi cam-drin domestig neu’r rhai yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig ar draws Gogledd Powys, sy’n cynnwys yr hen Sir Drefaldwyn.
Mae llochesi’r elusen yn darparu llety brys ar gyfer dynion a merched, sy’n amgylcheddau diogel gyda chefnogaeth, ynghyd ag ystod eang o wasanaethau allgymorth.