Mae Coleg y Drenewydd yn dathlu canlyniadau rhagorol ar ôl i fyfyrwyr orffen gyda’r graddau uchaf yn eu hastudiaethau galwedigaethol.
Mae BTEC Lefel 3 yn gyfwerth â thair Safon Uwch a dyma’r llwybr a ddewisir gan lawer o fyfyrwyr. Mae llawer wedi sicrhau lleoedd yn y prifysgolion o’u dewis tra bo eraill wedi ennill y cymwysterau i gael eu swyddi delfrydol ar ôl llwyddo i sicrhau’r graddau yr oedd eu hangen arnynt.
Derbyniodd y myfyrwyr Chwaraeon Laura Shinton a Jennifer Jarvie y radd uchaf y gellir ei chyflawni, sef D* driphlyg mewn BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon, Hyfforddi a Datblygu. Mae’r canlyniad yn gyfwerth â 3 A* ar Safon Uwch ac yn golygu bod ganddyn nhw gyfanswm o 168 o bwyntiau UCAS.
Dywedodd Laura, nofwraig ymroddedig sydd wedi cyrraedd y deg uchaf am 50 metr dull broga yn y gemau cenedlaethol a’r 15 uchaf am 100 metr dull broga yng Nghymru: “Rwyf mor falch iawn gyda fy nghanlyniadau sy’n golygu y gallaf fynd ymlaen i Brifysgol Solent Southampton i astudio Gwyddor Iechyd, Maeth ac Ymarfer Corff.”
Dywedodd Amy Watkins, darlithydd chwaraeon: “Mae Laura wedi dangos ymroddiad mawr trwy gydol ei hastudiaethau ac mae ganddi’r holl botensial ar gyfer gyrfa wych o’i blaen, ac mae Jen yn llysgennad gwych ac yn arweinydd naturiol. Mae’n llawn cymhelliant ac mae ganddi ddyfodol gwych o’i blaen yn y diwydiant chwaraeon. Rydyn ni i gyd yn dymuno pob lwc i Jen a’n holl fyfyrwyr yn y dyfodol.”
Mae myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi profi eu bod yn griw sy’n gweithio’n galed gyda llawer yn cyflawni graddau gwych.
Mae Ellie Hinge D*D*D*, Iris Shanahan D*D*D* a Katie Clarke DDM i gyd wedi’u derbyn i Brifysgol Aberystwyth a byddant ymhlith y myfyrwyr cyntaf i ddilyn y cyrsiau BSc Nyrsio newydd yn y Brifysgol. Mae Iris wedi dewis y BSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl a Katie ac Ellie y Radd Nyrsio Oedolion.
Roedd canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol eraill yn cynnwys; Amy Sheddon a Leanne Moore ill dwy yn ennill Rhagoriaeth Serennog Driphlyg, gyda Megan Woodhouse a Ceara Burnside yn derbyn D*D*D. Mae Ceara yn bwriadu mynd i Brifysgol John Moore Lerpwl i astudio Seicoleg.
Dywedodd y Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Claire Bumford: “Mae’r myfyrwyr wedi gweithio mor galed ac wedi cael eu gwobrwyo gyda chanlyniadau gwych. Rydyn ni mor falch ohonyn nhw i gyd. O ystyried profiadau pawb yn y pandemig mae wedi amlygu pwysigrwydd cyfleoedd hyfforddi yn y sector ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r ymdrechion hynny, gan gynorthwyo ein myfyrwyr i gyflawni canlyniadau a all gefnogi gyrfa lwyddiannus yn yr amgylchedd Gofal Iechyd.”
Roedd myfyrwyr gofal plant hefyd yn falch o’u canlyniadau. Enillodd Corina Gamble, myfyrwraig sydd wedi dychwelyd i ddysgu, Ragoriaeth Serennog mewn Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ac mae wedi dewis astudio BA (Anrh) mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Dywedodd y Darlithydd Gofal Plant Laura Thomas, “Rwy’n hynod falch o’r myfyrwyr, y mae rhai ohonynt wedi gorfod ymdopi ag ymrwymiadau gartref ag astudio, ac eraill yn gweithio ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Ond mae pob un wedi gweithio mor galed. Pob lwc yn eich cam nesaf.”
Mae myfyrwyr Busnes hefyd wedi llwyddo yn yr arholiadau a’r gwaith cwrs caled eleni i gyflawni canlyniadau gwych, sy’n cynnwys:
Ruth Rees-Jones D*DD, sy’n aros gyda ni yng Ngholeg y Drenewydd i wneud HND mewn Amaethyddiaeth.
Mae Ffion Rowlands D*DD wedi cael ei phenodi i swydd Gweinyddydd Busnes amser llawn gyda Control Techniques.
Mae Carys Wilson Mills gyda DDD yn mynd i Brifysgol Lancaster i astudio Cyllid a Chyfrifeg.
Dywedodd y Darlithydd Busnes Harriet Bailey: “Rwy’n hynod falch o’r merched ifanc sydd wedi cyflawni canlyniadau di-ffael heddiw. Roedd heriau ac aberthau’r pandemig trwy gydol dwy flynedd eu hastudiaethau wedi eu gwneud yn fwy penderfynol fyth o ragori ym mhob maes pwnc o’r cwrs Busnes BTEC lefel 3 gyda llwyddiant ysgubol. Fy ngrŵp cyntaf i mi fod gyda hwy ers y diwrnod cyntaf, ac rydw i mor falch. Mae wedi bod yn bleser addysgu a gweld y merched ifanc hyn yn tyfu i fod yn academyddion busnes uchelgeisiol, dymunaf y gorau iddynt ar gyfer y dyfodol. Da iawn ferched.”
HND Amaethyddiaeth Gweithiodd ein myfyrwyr HND Amaethyddiaeth yn galed gartref ar eu ffermydd ac yn y Coleg i ennill canlyniadau rhagorol.
Enillodd Elin Protheroe, Nia Powell, Cerys Mills a Gwawr Jones Ragoriaeth.
Dywedodd Martin Watkin, Rheolwr Ystadau ar y Tir a Dirprwy Bennaeth Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth: ‘Rydym i gyd yn falch o’n holl fyfyrwyr am eu cyflawniadau. Maen nhw i gyd yn ferched sy’n gweithio’n galed, ar eu ffermydd gartref ac yn y Coleg. Buont yn gweithio’n galed trwy’r cyfnod clo trwy ddysgu ar y rhyngrwyd ond wrth ddychwelyd i’r Coleg fe wnaethant godi’r lefel hyd yn oed yn uwch. Bob amser yn ymdrechu i gyflawni mwy ar bob cyfle. Mae eu canlyniadau yn haeddiannol. Da iawn ferched.”
Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio: Roedd graddau Rhagoriaeth ar draws tri maes y Celfyddydau. Gyda blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn lefel 3 UAL yn cyflawni’r graddau uchaf ac yn y diplomâu estynedig.
Derbyniodd Demi Forbes, myfyriwr blwyddyn gyntaf Lefel 3 Celf a Dylunio, Ragoriaeth. Ar gyfer ei phrosiect terfynol, cynhyrchodd Demi lyfr naid nofel graffig darluniadol, yn seiliedig ar y chwedl Tsieineaidd Llinyn Coch Tynged.
Enillodd Roxie Brookes Ragoriaeth yn y Diploma Estynedig Lefel 3 Celf a Dylunio UAL. Mae Roxie yn gobeithio cael gwaith yn lleol fel dylunydd graffeg/gwe llawrydd. Ar gyfer ei phrosiect terfynol bu Roxie yn arbrofi gyda chynlluniau ailfrandio ar gyfer y cwmni lleol Hafren Vets.
Meddai’r Darlithydd Celfyddydau, Rob Loupart: “Mae’r myfyrwyr i gyd wedi dangos ystod amrywiol o sgiliau. Mae Demi yn ddarlunydd dawnus o ran lluniadu, paent a chyfryngau digidol. Mae gan Roxie ddealltwriaeth wych o hysbysebu a chynlluniau dylunio, brandio a chynllunio tudalennau gwe, gan ddefnyddio ystod lawn o feddalwedd Adobe i safon broffesiynol. Dymunwn pob lwc i’n holl fyfyrwyr yng ngham nesaf eu gyrfaoedd.”
Derbyniodd myfyrwyr Lefel 3 y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Ruby Morgan, Aneirin Parton ac Evangelia Dimitriou i gyd Ragoriaethau a byddant yn symud ymlaen i’r ail flwyddyn.
Mae’r myfyrwyr Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lucy Jones, Amy Richards a Jake Robinson i gyd wedi derbyn Rhagoriaethau ac wedi sicrhau lleoedd yn Ysgol Cerddoriaeth, Cyfryngau a Chelfyddydau Perfformio LMA.
Gwnaeth y myfyrwyr Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg Diploma Estynedig Lefel 3 Arron Weston a Harrison Collard-Francis ennill Rhagoriaeth.
Mae Prentisiaid Hyfforddiant Pathways hefyd wedi bod yn dathlu eu cyflawniadau fframwaith llawn ar Lefel 2, 3, 4 a 5 mewn ystod o sectorau galwedigaethol. Mae’r fframwaith yn cynnwys NVQ, Tystysgrif Dechnegol a Sgiliau Hanfodol. Mae pob Prentis yn cael ei gyflogi gan gyflogwyr lleol ac mae llawer wedi mynychu’r Coleg ar ddiwrnodau rhyddhau fel rhan o’u Rhaglen Brentisiaeth.