Wrth i’r argyfwng costau byw ddwysau, mae Grŵp Colegau NPTC yn gwneud popeth o fewn ei allu i helpu rhieni a theuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd trwy ddarparu brecwast am ddim i bob myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Bydd y datblygiad yn helpu’r rhai sy’n ceisio ymdopi â chostau cynyddol, chwyddiant cynyddol, sydd wedi codi prisiau bwyd, a phrisiau ynni yn sylweddol. Bydd y brecwastau am ddim a fydd yn bwydo miloedd o fyfyrwyr hefyd yn darparu manteision maeth ac iechyd ar ddechrau’r diwrnod.
Mae’r Coleg wedi penderfynu darparu’r brecwastau am ddim yn wyneb pryderon cynyddol ynghylch y cynnydd mewn costau byw.
Dywedodd Catherine Lewis, Pennaeth a Dirprwy Brif Weithredwr dros dro y Coleg: “Llesiant myfyrwyr yw ein blaenoriaeth a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i’w cefnogi. Rydyn ni i gyd yn gwybod am fanteision bwyta brecwast iach, ond rydyn ni hefyd yn ymwybodol o’r baich ariannol y mae teuluoedd yn ei wynebu a gobeithio y bydd hyn yn helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau hwnnw.”
Bydd y brecwastau ar gael yn ffreuturau a chaffis y coleg gan gynnwys Coleg Castell-nedd; Coleg Afan; Coleg Bannau Brycheiniog; Coleg y Drenewydd ac Academi Chwaraeon Llandarsi. Rhoddir talebau i fyfyrwyr sy’n mynychu Coleg Pontardawe a Chanolfannau Adeiladu Maesteg ac Abertawe, i’w defnyddio gyda sefydliadau partner lleol.