Yn dilyn ei lwyddiant diweddaraf o ran gwobrau, dychwelodd Lee Stafford i’w Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol yng Ngholeg Afan i gyflwyno gwobr arbennig iawn i dri darlithydd.
Dyfarnwyd Diploma Hyfforddwr Meistr i Pam O’Brien, Rebecca Crew a Claire Richardson, a elwir hefyd yn ‘Siswrn Aur’, am gyrraedd eu ’10 canlyniad Mawr’ ym mhob rysáit Lefel 2 a Lefel 3. Eglurodd Lee: “Dim ond pan fyddan nhw’n gallu atgynhyrchu ryseitiau cystal â mi y rhoddir y Siswrn Aur. Nid yw’n dasg hawdd. Fel arfer mae’n cymryd dwy flynedd; mae’n rhaid iddynt wneud fideo ohonyn nhw’u hunain yn gwneud pob un rysáit, yna ei anfon i’n tîm. Rydym yn ei asesu yn erbyn fideo Lee Stafford Education. A ddilynon nhw’r camau a wnes i? A gawson nhw’r un canlyniadau? A phan maen nhw’n gallu gwneud pob rysáit i safon ’10 Mawr’, sef yr hyn sy’n cyfateb i Seren Michelin i ni, maen nhw’n cael y Siswrn Aur.
Yn ystod ei ymweliad, cyfarfu Lee hefyd â’r garfan bresennol o fyfyrwyr Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol, gan roi arddangosiad iddynt o ddau o’i ryseitiau unigryw; Long Disconnected Layer Cut a Twisted Tong, a sôn am ei lwybr i lwyddiant ac ateb eu cwestiynau. Ymhlith y cwestiynau a ofynnwyd iddo oedd: “Pryd wnaethoch chi sylweddoli eich bod wedi llwyddo?” ac atebodd nad yw wedi cyflawni hynny eto! Gofynnwyd iddo hefyd am ei hoff a chas bethau am ei waith a soniodd am rai o’r profiadau gwahanol a gafodd tra’n gweithio fel Triniwr Gwallt yn Llundain ac ar draws y byd.
Roedd ganddo hyd yn oed amser ar gyfer cwpl o hunluniau ac i roi rhai o’i gynhyrchion bythol boblogaidd i fyfyrwyr a oedd yn gofyn cwestiynau.
Mae wedi bod yn fis prysur i Lee. Yn gynharach ym mis Medi, enwyd Sefydliad Addysg Lee Stafford yn enillydd y categori Arbenigwr Addysg cyntaf erioed yn y Gwobrau Most Wanted Blynyddol, a gynhaliwyd yn y Tate Modern ysblennydd yn Llundain.
Mae’r tlws Arbenigwr Addysg yn mynd i unigolyn neu dîm sy’n darparu addysg eithriadol i’r diwydiant trin gwallt. Un o’r nosweithiau mwyaf hudolus yn y calendr trin gwallt, bob blwyddyn mae Most Wanted yn dod ag eiconau’r diwydiant, sêr, a chwaethwyr ynghyd i ddathlu’r doniau gwallt mwyaf cyffrous, blaengar ac arloesol yn y DU ac Iwerddon. Wedi’i gyflwyno gan y prif gylchgrawn trin gwallt Creative HEAD a’i gynnal gan y digrifwr Suzi Ruffell, digwyddiad 2022 oedd y mwyaf erioed, gydag 16 tlws yn cael eu dosbarthu ar y noson.
Mae’r arwr trin gwallt Lee Stafford – y mae ei gynnyrch pinc llachar yn cael ei werthu yn Boots – wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn ceisio datrys problem barhaus – anaml y mae graddedigion coleg trin gwallt yn barod am salon. Ei ‘Gyfatebiaeth Omled’ ydyw: os mai coginio oedd gwallt, yna mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu gannoedd o wahanol ffyrdd i wneud omled nad yw’n dda iawn – a’r ateb yw cael un ffordd Seren Michelin i’w wneud.
Felly, creodd The Big 10, nod barcud ar gyfer gwallt y mae hyfforddwyr o’i sefydliad dielw yn mynd ag ef i golegau ledled y wlad
Enillodd Lee a’i dîm y tlws pwysig Most Wanted, gwobr gan noddwr y categori Color start, cyhoeddusrwydd ar draws y brand Creative HEAD am hyd eu blwyddyn fuddugol a’r cyfle i ymddangos yn nigwyddiadau Creative HEAD.
Dywedodd cyhoeddwr Creative HEAD Catherine Handcock: “Mae unrhyw beth yn bosib ym maes trin gwallt os oes gennych chi’r sgiliau sylfaen cadarn yn eu lle. Mae penderfyniad Lee i roi’r dechrau gorau posibl i bob myfyriwr coleg mor drawiadol, ac mae’r cwricwlwm yn tynnu ar ei brofiad helaeth ar frig y grefft. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn haeddiannol.”
Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan fach yn llwyddiant Lee ym maes addysg, sef yr unig Academi Lee Stafford yng Nghymru, gan ddarparu hyfforddiant eithriadol yng Ngholeg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd.
Mae myfyrwyr yn ymarfer arddulliau a thechnegau blaengar, a elwir yn ryseitiau, a ddyluniwyd gan Lee a steilwyr blaenllaw eraill o bob rhan o’r diwydiant mewn salonau pwrpasol sy’n agored i’r cyhoedd.
Lee Stafford: “Mae’n wych gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r myfyrwyr.” “Rwy’n frwd iawn ynghylch rhoi i weithwyr proffesiynol ifanc y cyfle gorau i gael addysg dda, yn enwedig mewn trin gwallt.
Yn anad dim, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC i ddatblygu technegau cryf iawn ac agweddau gwych wrth baratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant trin gwallt.”
Os ydych chi wedi’ch ysbrydoli ac eisiau dechrau gyrfa mewn Trin Gwallt, cliciwch ar y botwm isod i gychwyn eich taith.