Mae Grŵp Colegau NPTC yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i wella datblygiad ei Academi Dronau ymhellach a fydd yn cynnig rhaglenni hyfforddi er budd diwydiant yng Nghymru a thu hwnt.
O ran hyfforddiant a chymorth dronau dan arweiniad y diwydiant, y Coleg yw’r unig un yn y DU sy’n gweithio gydag ECITB ac eraill gan gynnwys Sellafield a Railtrack i redeg rhaglenni penodol wedi’u teilwra. Trwy gydweithio, bydd yr hyfforddiant yn cynnig dull cynhwysfawr o gefnogi’r sector hwn sy’n tyfu.
Mae’r defnydd o dronau mewn diwydiant, diogelwch, chwilio ac achub wedi’i gofnodi’n dda, ac o ystyried lefel uchel y diwydiant trwm yng Nghymru, fel dur, niwclear, purfeydd, tyrbinau gwynt yn ogystal â’r Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd sy’n dod i’r amlwg, bydd yr Academi yn cyflawni lefel uchel o sgiliau sydd eu hangen.
Mae Safonau Hyfforddiant Dronau ECITB yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ac yn cael eu treialu mewn diwydiant cyn mynd yn fyw ac maent wedi cael derbyniad da. Mae’r Coleg wedi rhoi rhai o’i staff ei hun ar y cwrs datblygu ynghyd â rheolwyr o Network Rail a Sellafield.
Meddai Rheolwr Datblygu Cynnyrch ECITB, Reg Rudd: “Mae’r diwydiant peirianneg adeiladwaith (ECI) wedi gweld cynnydd dramatig yn y defnydd o Systemau Awyrol ddi-griw (UAS) ac oherwydd eu hyblygrwydd, eu gallu i leihau aflonyddwch i gynhyrchu a manteision diogelwch amlwg, mae hyn wedi golygu bod diddordeb yr ECI wedi cynyddu yn sylweddol.
“Mae cyflogwyr o fewn yr ECI naill ai’n hyfforddi eu gweithwyr eu hunain neu’n datblygu eu dealltwriaeth o ofynion eu cwmpas arolygu wrth is-gontractio eu harchwiliadau safle i sefydliadau trydydd parti; mewn amgylchedd technolegol sy’n newid yn gyflym, nid yw hon yn dasg fach
“Mae ECITB wedi ffurfio gweithgor o’r darparwyr hyfforddiant ECI ac UAS i ddatblygu safonau hyfforddi a fydd yn cefnogi dealltwriaeth ein cwmnïau cofrestredig o alluoedd a buddion Systemau Awyrennau Di-griw.”
Dywedodd Jayne Jones, Pennaeth Datblygu Busnes yng Ngrŵp Colegau NPTC fod y Coleg yn canolbwyntio ei ymdrechion ar ddatblygu darpariaeth a fydd yn diwallu anghenion datblygol Net Sero, Digidol a Diwydiant 4.0.
“Mae ein ffordd gydweithredol o weithio yn ein galluogi i gefnogi cyflwyno cymwysterau sy’n arwain y diwydiant, gweithio gyda hyfforddwyr sy’n arwain y farchnad a gweithwyr proffesiynol technoleg, ochr yn ochr â sicrhau ein bod yn darparu’r sgiliau y mae galw amdanynt, i gyd yn seiliedig ar ein mecanweithiau adborth gan gyflogwyr. Prosiectau sy’n arwain y farchnad fel yr Academi Dronau sy’n gyrru ein hangerdd ymhellach ac yn gweithio’n galetach fyth i ddiwallu anghenion y busnesau a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”
Dywedodd un o’r rhai a fynychodd y cwrs, Liam Barrington, Rheolwr Prosiect gyda Network Rail, ei fod eisiau cyflawni lefel uwch o gymhwysedd dronau y gallai ei rannu o fewn ei sefydliad. “Yr agwedd fwyaf pleserus ar y cwrs fu dysgu am gynllunio newydd a gweithdrefnau ECI. Byddaf yn argymell bod peilotiaid dronau yn y dyfodol yn Network Rail yn mynychu’r cwrs hwn.”
Hefyd yn cymryd rhan roedd Sean Joss, Rheolwr Adran Dros Dro gyda Network Rail, a ychwanegodd: “Roeddwn i eisiau dilyn y cwrs i ddysgu prosesau a gweithdrefnau newydd mewn perthynas â diwydiant cwbl wahanol. Roedd yn fanwl iawn ac yn ehangu fy ngwybodaeth a dealltwriaeth,a’r hedfan oedd yr agwedd fwyaf pleserus o’r cwrs.”
Dywedodd Levi Harris, Technegydd Peirianneg Fecanyddol, o Golegau NPTC: “Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn y cwrs oherwydd roeddwn i eisiau ehangu fy ngwybodaeth. Mwynheais yr agweddau ymarferol gan fy mod yn gallu dysgu hedfan y dronau a thynnu lluniau.”