Bydd Cymru yn dod ag absenoldeb 64 mlynedd o Gwpan y Byd i ben pan fyddan nhw’n chwarae yn erbyn UDA yn Doha ar ddydd Llun yr 21ain o Dachwedd.
Mae rheolwr Cymru Rob Page wedi enwi ei garfan o 26 dyn fydd yn teithio i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958. Bydd Joe Allen, Ben Davies, Connor Roberts, Joe Rodon, Dan James a Ben Cabango i gyd yn gobeithio chwarae eu rhan ar y cae dros Gymru, tra bydd Oli Cooper hefyd yn ymuno â’r garfan chwarae fel chwaraewr wrth gefn.
Mynychodd pob un o’r chwaraewyr hyn y Coleg fel rhan o raglen brentisiaeth drwy Academi Dinas Abertawe. Ochr yn ochr â’r chwaraewyr mae gennym hefyd gyn-fyfyriwr y Coleg Adam Owen sy’n rhan o staff hyfforddi Cymru fel hyfforddwr ffitrwydd.
Bydd Cymru yng Ngrŵp B ochr yn ochr â Lloegr, UDA ac Iran. Bydd holl gemau Grŵp B yn cael eu chwarae yn Stadiwm Ahmad bin Ali ychydig y tu allan i brifddinas Qatar, Doha. Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch ar ddydd Llun yr 21ain o Dachwedd yn erbyn UDA cyn chwarae Iran ar ddydd Gwener y 25ain ac yn olaf Lloegr ar y 29ain.
Dyma’r hyn y mae rhai o’r chwaraewyr wedi dweud am gynrychioli eu gwlad yng Nghwpan y Byd.
Ben Davies: “Mae’n gyffrous. Mae’n griw o fechgyn sydd wrth eu bodd yn chwarae dros eu gwlad ac maen nhw’n teimlo hynny’n ôl gan y cefnogwyr. Rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n eu cynrychioli. Rydyn ni’n gwybod y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn y dorf gyda’r bechgyn pe na baem yn chwarae’r noson honno!”
Dan James: “Roedd yn un peth i gyrraedd yno, ond fe fyddwn ni’n mynd i Qatar ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud ein gorau glas yno. Nid dim ond i gyfrannu at y niferoedd yr ydym yno. Mae’n dangos cystal camp yw hi i’r grŵp hwn o chwaraewyr. Yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni. I allu bod yn rhan o garfan sydd wedi cyrraedd Cwpan y Byd – Ewros cefn wrth gefn a Chwpan y Byd – mae’n deimlad arbennig.”
Ben Cabango: “Rydw i wedi gweithio mor galed i gyrraedd y lle rydw i ar hyn o bryd, allwn i ddim bod yn fwy balch. Dyma beth rydych chi’n breuddwydio amdano fel plentyn, mae’n rhoi croen gwydd i mi bob tro rwy’n meddwl amdano. Mae gen i le yn Qatar ac mae’n deimlad anhygoel.”
Connor Roberts: “Fe allen ni fod wedi chwarae unrhyw un; bydd pobl yn meddwl nad oes gennym ni unrhyw obaith ond byddai chwarae yng Nghwpan y Byd i fy ngwlad yn annisgrifiadwy.
Hoffai pawb yng Ngrŵp Colegau NPTC ddymuno pob lwc i dîm Cymru gyfan ar gyfer y twrnamaint.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwylio unrhyw rai o gemau Cymru, byddan nhw i gyd yn cael eu darlledu ar y BBC, ITV ac S4C. Dyma’r dyddiadau a’r amseroedd ar gyfer holl gemau grŵp Cymru yng Nghwpan y Byd:
Dydd Llun 21 Tachwedd – UDA v Cymru – y gic gyntaf 7pm amser y DU
Dydd Gwener 25 Tachwedd – Cymru v Iran – y gic gyntaf 10am amser y DU
Dydd Mawrth 29 Tachwedd – Cymru v Lloegr – y gic gyntaf 7pm amser y DU
Os ydych chi eisiau dilyn yn ôl traed y cyn-fyfyrwyr hyn, beth am edrych ar y cyrsiau Chwaraeon sydd gennym ar gynnig trwy glicio ar y ddolen isod.