Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o fod yr unig Goleg yng Nghymru i gael ei achredu gan y Rhuban Gwyn. Ymgyrch fyd-eang yw ymgyrch y Rhuban Gwyn a dyma’r elusen arweiniol yn y DU sy’n ymgysylltu â bechgyn a dynion i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Mae’r Coleg yn darparu cynllun gweithredu cynhwysfawr i newid y fath ddiwylliant sy’n arwain at gamdriniaeth a thrais ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal i’r rhywiau, cynllun sy’n cynnwys hyfforddiant a sesiynau gwybodaeth i staff a myfyrwyr. Bydd staff a myfyrwyr hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd llw i beidio byth â defnyddio, esgusodi neu gadw’n dawel ynglŷn â thrais gan ddynion yn erbyn menywod, wrth arwyddo rhuban gwyn enfawr a fydd ar gael ym mhob derbynfa ym mhob un o 8 safle’r coleg ddydd Gwener 25 Tachwedd. Bydd pinnau rhuban gwyn a chacennau cwpan yr ymgyrch ar gael i staff a myfyrwyr sy’n cymryd y llw hefyd.
Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp NPTC yw Arweinydd strategol a Llysgennad y Coleg ar gyfer y Rhuban Gwyn a dywedodd: “Rydw i’n falch o sefyll a chael fy nghysylltu â phopeth y mae’r Rhuban Gwyn yn ei olygu, i annog a galluogi dynion eraill i gymryd y llw a dangos eu cefnogaeth i achos mor bwysig.
“Dywedodd Anthea Sully, Prif Weithredwr Rhuban Gwyn DU: “Gall sefydliadau sydd wedi’u hachredu gan y Rhuban Gwyn wneud gwahaniaeth mawr o ran rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod trwy hyrwyddo diwylliant o barch a chydraddoldeb ymhlith eu staff a’r gymuned ehangach. Trwy godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr, gall pobl ddysgu sut i ddod yn gefnogwyr a thynnu sylw at ymddygiad treisiol a difrïol os ydynt yn ei weld, yn y gweithle neu’r tu hwnt. Rydyn ni wrth ein bodd i groesawu Grŵp Colegau NPTC fel un o’n sefydliadau achrededig ac edrychwn ymlaen at weithio â’r coleg.”