Mae Nathan Davies, cyn-fyfyriwr Coleg Castell-nedd, yn ffynnu fel gwneuthurwr ffilmiau a ffotograffydd wrth iddo deithio i bedwar ban byd.
Dychwelodd y cyn-fyfyriwr Safon Uwch Astudiaethau Ffilm, Ffotograffiaeth, Seicoleg a Saesneg i’r coleg yr wythnos ddiwethaf i siarad â rhai o’n myfyrwyr Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio am ei waith. Mae Nathan yn gweithio fel gwneuthurwr ffilmiau a ffotograffydd llawrydd ac yn gweithio gyda rhai o athletwyr mwyaf y byd mewn chwaraeon fel UFC.
Mae gwaith Nathan wedi cael ei ddangos ar draws y byd ond iddo ef y lleoedd mwyaf cyffrous y mae ei waith wedi’i ddangos yw Madison Square Garden yn Efrog Newydd ac Arena O2 yn Llundain.
“Fe wnes i hysbyseb ar gyfer TimeX a chwaraeodd i 20,000 o bobl sy’n garreg filltir i mi. Mae cael fy nghynnwys wedi’i chwarae yn Arena O2 yn cŵl hefyd. Mae gweld fy ngwaith yn y mathau hyn o leoedd yn anhygoel, mae wedi mynd o gael mam yn unig yn gweld fy ngwaith i griw o bobl ledled y byd yn ei weld – mae’n braf iawn.”
Wrth adael yr ysgol, roedd Nathan yn bryderus ac yn ansicr am ei yrfa yn y dyfodol, ond mae’n teimlo mai Coleg Castell-nedd oedd y lle perffaith iddo agor i fyny a dechrau arbrofi ac archwilio pethau. Yn wreiddiol, ni ddewisodd Nathan Astudiaethau Ffilm ond, ar ôl ymddangos yn un o ffilmiau byr ei ffrind fe wnaeth y penderfyniad i’w astudio ac nid yw erioed wedi edrych yn ôl.
Dywedodd Nathan: “Fe wnes i ei fwynhau’n fawr, roeddwn i’n ei gael yn gymaint o hwyl ac yn y coleg mae cymaint o bethau gwahanol yn digwydd sy’n caniatáu ichi ennill profiad a phe na bawn i’n cymryd Safon Uwch Astudiaethau Ffilm, ni fyddwn lle rydw i heddiw. Astudiaethau Ffilm yw lle gosodais y sylfeini ar gyfer fy ngyrfa, gan weithio ar lawer o brosiectau gwahanol y tu mewn a thu allan i’r coleg a rhoddodd gyfle i mi ddysgu o’m camgymeriadau a gwella, drwy arbrofi a gwneud camsyniadau.”
Dywedodd Nathan wrthym fod ei ddarlithwyr Astudiaethau Ffilm wedi ei helpu cymaint yn ystod ei gyfnod yn y coleg ac wedi creu amgylchedd gwych y gallai ddatblygu ynddo, a hoffai ddiolch iddynt am gredu ynddo.
Ar ôl gadael y coleg, bu Nathan yn ddigon ffodus i gael y cyfle i deithio o amgylch y byd, gan ymgymryd â fideograffi ar gyfer asiantaeth teithio mordaith. Rhoddwyd y cyfle iddo gan un o’i gyn ddarlithwyr yn y coleg, Lisa James. Caniataodd hyn iddo ennill llawer o brofiad.
Buom yn siarad â Lisa am ei phrofiadau o ddysgu Nathan:
“Roedd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf fod gan Nathan ddawn i ffilmio a golygu, ond mae wedi gweithio’n hynod o galed i ddatblygu’r sgil hwn ac wedi troi ei angerdd yn yrfa ryfeddol. Rwy’n hynod falch o bopeth mae Nathan wedi’i gyflawni ac yn dymuno’r gorau iddo gyda’i ymdrechion yn y dyfodol. Mae’n wych gweld cyn-fyfyrwyr yn llwyddo yn eu dewis feysydd, ac mae’n anrhydedd dilyn hynt Nathan.”
Yn 2019, cafodd Nathan gyfle i fynd i Florida i weithio gyda rhai athletwyr UFC fel Kamaru Usmanas.
“Es i draw yno, ac roedd gen i syndrom ymhonni, gan fy mod yn fyfyriwr yn y brifysgol ar y pryd, ond mae’n hynod bwysig mynd allan o’ch parth cysur a rhoi cynnig ar lawer o bethau gwahanol.”
Mae profiadau Nathan yng Ngholeg Castell-nedd wedi helpu i siapio’r person ydyw heddiw, ac roedd ganddo hyn i’w ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried ymuno â’r coleg:
“Byddwn yn argymell bod myfyrwyr yn dod i astudio yng Ngholeg Castell-nedd, mae wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd. Fe helpodd fi i ddod allan o’m cragen, helpodd gyda sgiliau rhyngbersonol a hefyd rhoddodd yr amgylchedd i mi allu archwilio a dod o hyd i’r peth roeddwn i wir eisiau ei wneud. Mae’n lle perffaith i allu gosod y sylfeini annatod hynny i allu tyfu a’ch gosod ar gyfer gyrfa lwyddiannus.”
Os hoffech chi ddilyn yn ôl troed Nathan, yna beth am edrych ar ein cyrsiau Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio.