Cymerodd tua 40 myfyriwr yng Ngholeg Y Drenewydd ran mewn sesiynau llesiant a gynhaliwyd gan lyfrgell y Coleg. Darparwyd y sesiynau gan siaradwr gwadd Lizzie Cockle o Rekindle, sef elusen a leolir yn Y Drenewydd sy’n cynnig cwnsela a chymorth ar gyfer pobl ifanc 16 – 2 oed. Rekindle – Cael Pobl Ifanc i Siarad am Iechyd Meddwl
Dysgodd y myfyrwyr am y cymorth a ddarperir gan Rekindle, yn ogystal â’r cwnsela a’r cymorth llesiant ar gael gan y Coleg. Cyfrannodd y myfyrwyr ar weithgaredd ‘coeden gwytnwch’ a oedd yn eu hannog i fyfyrio ar yr hyn sydd yn eu helpu i ddangos gwytnwch wrth wynebu heriau bywyd. Dysgodd y myfyrwyr hefyd am y casgliad newydd o lyfrau Darllen yn Well ar gyfer yr Arddegau sydd ar gael i’w benthyg yn llyfrgelloedd y Coleg. Ceir copïau digidol sef e-lyfrau hefyd y gall myfyrwyr eu darllen ar-lein.
Dywedodd Bridget Royce Swyddog Iechyd a Llesiant Y Drenewydd: “Mae pob un o’n dysgwyr wedi wynebu llu o heriau dros y blynyddoedd diweddar ac mae’r digwyddiad hwn wedi rhoi strategaethau pwysig i’r cyfranogwyr er mwyn adeiladu gwytnwch, yn ogystal â gwybodaeth allweddol ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael.”
Dywedodd Jacinta Jolly Llyfrgellyd Y Drenewydd ‘Mae’r casgliad Darllen yn Well ar gyfer yr Arddegau yn bwysig oherwydd y gall llyfrau fod yn ffynhonnell ffantastig o wybodaeth a chymorth – weithiau gall y llyfr cywir ar yr union adeg arbed bywyd rhywun.”
I gael mwy o wybodaeth am y llyfrau yn y casgliad Darllen yn Well ar gyfer yr Arddegau, cliciwch ar y linc yma: Darllen yn Dda i’r ArddegauReading Well for Teens.