Os nad yw astudio amser llawn yn opsiwn i chi, yna gallai prentisiaeth gyda Grŵp Colegau NPTC fod yr union beth rydych chi’n edrych amdano!
Mae Pathways Training, sy’n rhan o Grŵp Colegau NPTC yn ddarparwr balch sy’n cyflwyno cymwysterau personol, a gydnabyddir gan y diwydiant ar draws Canolbarth a De-orllewin Cymru. Mae ein holl aseswyr â phrofiad a gwybodaeth helaeth o’r diwydiant i gefnogi dysgwyr â’u cymwysterau a chyflogwyr gyda’u teithiau.
Mae gennym raglenni prentisiaeth llwyddiannus iawn gyda rhai cwmnïau eithriadol, megis: DVLA: Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Undeb Rygbi Cymru (URC); Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Bwrdd Iechyd Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae prentisiaeth neu ddysgu seiliedig ar waith yn rhoi cyfle i chi ennill profiad gwerthfawr mewn swydd go iawn a chael cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, a’r cyfan wrth ennill cyflog!
Gallwch ddod o hyd i yrfaoedd mewn llawer o feysydd gan gynnwys:
Cyfrifeg, Amaethyddiaeth, Mecaneg Amaethyddol, Gweinyddiaeth Busnes, Gofal / Gofal Iechyd Clinigol, Adeiladwaith, Gofal Plant a Gwaith Chwarae, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Peirianneg, Lletygarwch, Cerbydau Modur, Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Rheoli Manwerthu ac Arwain Timau a Rheolaeth.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy:
E-bost
pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk
Ffôn
Pathways Coleg Castell-nedd: 0330 818 8002
Pathways Coleg Y Drenewydd:0330 818 9442
Y Llysgennad Prentisiaethau Catrin yn Breuddwydio am Agor Meithrinfa Un Diwrnod
Mae’r prentis sy’n siarad Cymraeg, Catrin Morgan, yn cyflawni uchelgais ei gyrfa o weithio gyda phlant ifanc a hoffai agor ei meithrinfa ei hun yn y dyfodol.
Mae Catrin, 18, o Bontarddulais, yn gweithio tuag at Brentisiaeth ddwyieithog Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer) Plant trwy City & Guilds, a ddarperir gan Pathways Training, rhan o Grŵp Colegau NPTC. Mae’n gobeithio symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch i gefnogi ei huchelgais gyrfa.
Oherwydd ei hangerdd dros y Gymraeg a phrentisiaethau, mae Catrin wedi’i phenodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC).
“Rydw i wir yn mwynhau fy mhrentisiaeth yng Nghylch Meithrin Pontarddulais,” meddai Catrin, sydd hefyd yn gynorthwyydd manwerthu rhan amser i Primark. “Rwyf wedi bod eisiau gweithio gyda phlant erioed oherwydd rwyf wrth fy modd yn eu gweld yn datblygu a gallu eu helpu.
“Gobeithio gallaf weithio at gyrraedd lefel uwch a swydd amser llawn yn y Cylch. Fy nod yw agor fy meithrinfa fy hun un diwrnod.”
Wrth siarad am ei rôl fel Llysgennad Prentisiaethau, dywedodd ei bod yn awyddus i hyrwyddo manteision bod yn brentis a dwyieithrwydd.
“Mae gwneud prentisiaeth yn llawer gwell oherwydd rydw i’n gallu dysgu mwy mewn un diwrnod nag mewn wythnos yn y coleg,” meddai Catrin. “Gan fy mod yn llysgennad, gallaf helpu i gynghori eraill am fanteision dysgu yn y gweithle gyda phrentisiaeth os nad ydynt yn siŵr beth maent am ei wneud.
Dywedodd Claire Quick, tiwtor Catrin ac asesydd o Pathways Training yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Mae Catrin yng nghamau cynnar ei phrentisiaeth ac mae wedi gwneud yn arbennig o dda yn ei hasesiadau. Mae’n gweithio gyda phlant dwy a thair oed ac yn datblygu ei sgiliau a’i hyder.”