Mae’r Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Jackson Foote yn gyn-fyfyriwr Academi Chwaraeon Llandarcy a astudiodd Gwasanaethau Cyhoeddus gan gwblhau ei astudiaethau haf diwethaf.
Mae Jackson yn Swyddog gyda Heddlu De Cymru. Fel rhan o’i rôl, mae’n ymweld ag ysgolion a cholegau yn yr ardal leol. Mae Jackson yn ymweld â Choleg Castell-nedd fel rhan o fenter ‘Paned gyd Phlisman’ y coleg, sy’n rhan o’n rhaglen Cymunedau Dysgu Mwy Diogel, a weithredir ar draws ein holl safleoedd. Nod yr ymweliadau hyn yw ymgysylltu â myfyrwyr a staff i greu cyswllt cryf rhyngddynt a’r heddlu. Mae hefyd yn galluogi myfyrwyr i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu am yr Heddlu.
Ar ôl gadael y coleg yn haf 2022, gwnaeth Jackson gais i ymuno â Heddlu De Cymru. Ar ôl pasio’r holl wiriadau meddygol a ffitrwydd, dechreuodd Jackson ei hyfforddiant ym mis Hydref. Parhaodd yr hyfforddiant am ddeg wythnos pan ddysgodd am bwerau a deddfwriaeth yr Heddlu, ynghyd â materion fel Llinellau Sirol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant, dywedwyd wrth Jackson y byddai’n gweithio yng Ngorsaf Heddlu Sgiwen a dechreuodd weithio ychydig cyn y Nadolig.
Pan ofynnwyd iddo am ei rôl newydd a phwysigrwydd ymweld â’r coleg, dywedodd Jackson:
“Mae’n rôl ragweithiol iawn o fewn yr heddlu ac mae’n rhoi boddhad mawr oherwydd gallwch chi wneud gwahaniaeth yn y gymuned.”
“Mae’n bwysig i Heddlu De Cymru ddod i’r coleg fel bod myfyrwyr yn gallu teimlo’n ddiogel o amgylch yr heddlu a deall beth yw ein rôl. Mae hefyd yn caniatáu iddynt ofyn unrhyw ymholiadau neu bryderon sydd ganddynt.”
Yn ystod ei gyfnod yn y coleg, mae Jackson yn teimlo bod y darlithwyr a’r staff cymorth wedi rhoi’r llwyfan iddo fod lle y mae heddiw, o roi cyngor iddo i’w helpu i wneud cais i ymuno â’r heddlu. Tra yn y coleg, roedd Jackson yn rhan o’r Llu Cadetiaid Cyfunol (CCF) lle cyfarfu â Dave Rush. Mae Dave, sy’n Rheolwr Coleg yng Ngholeg Castell-nedd, yn helpu gyda’r CCF, gan drosglwyddo ei bedair blynedd ar hugain o wybodaeth filwrol.
Pan ofynnwyd iddo am weld Jackson yn dychwelyd i’r coleg ac yn ffynnu yn ei yrfa ddewisol, dyma oedd gan Dave i’w ddweud:
“Mae’n wych gweld cyn-fyfyrwyr yn dychwelyd i’r coleg ar ôl cwblhau eu cymwysterau a’u defnyddio yn eu dewis feysydd, mae’n dangos bod y coleg yn paratoi myfyrwyr yn gywir ar gyfer byd gwaith ac mae’n dystiolaeth wych sy’n dangos manteision cymwysterau galwedigaethol.”
I ddysgu mwy am y Llu Cadetiaid Cyfunol cliciwch ar y ddolen isod.
Mae profiadau Jackson yn Academi Chwaraeon Llandarcy wedi helpu i siapio’r person ydyw heddiw; dywedodd wrthym am ei amser yno:
“Cefais brofiad cadarnhaol iawn yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Roedd y darlithwyr yn hynod barod i helpu gyda fy astudiaethau, yn enwedig trwy’r pandemig covid – yn aml yn mynd yr ail filltir i gynorthwyo minnau a’m cyd-ddisgyblion. Os yw unrhyw un yn ystyried astudio yn y coleg, byddwn yn dweud, ewch ati, mae’n goleg gwych gyda chyfleoedd arbennig a strwythur cymorth gwych.”
Os hoffech chi ddilyn yn ôl troed Jackson, cliciwch ar y ddolen isod i ddarganfod pa gyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus sydd gennym i’w cynnig.