Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi ein rhaglen Ysgoloriaeth CPD Y Drenewydd ar gyfer chwaraewyr dawnus 16-18 oed. Bydd y rhaglen rhad ac am ddim, mewn partneriaeth â Choleg y Drenewydd, yn rhoi cyfle i chwaraewyr astudio BTEC Lefel 3 Rhagoriaeth a Pherfformiad Chwaraeon sy’n cyfateb i 3 Safon Uwch (neu gwrs arall o ddewis y chwaraewyr) a hyfforddi’n amser llawn yn y clwb pêl-droed. Bydd y tîm hefyd yn chwarae yng nghynghrair colegau Lloegr. Mae ein hacademi yn ffynnu ar hyn o bryd a bydd y rhaglen ysgoloriaeth newydd yn ychwanegu haen hollbwysig arall at ein llwybr datblygu.
“Rydym yn hynod gyffrous i lansio’r rhaglen newydd hon sydd wedi cael ei gynllunio dros y 18 mis diwethaf. Rydym yn gweld y rhaglen fel cyfle i’n chwaraewyr ifanc gael mwy o amser cyswllt gyda’n staff hyfforddi rhagorol yn yr academi a phontio’r bwlch rhwng ein hacademi a’n tîm cyntaf. Bydd hyfforddi a chwarae mewn rhaglen hyfforddi amser llawn yn cyflymu datblygiad ein chwaraewyr ifanc ac yn cefnogi ein nod o weld mwy o chwaraewyr ein hacademi yn camu i’n tîm cyntaf ac yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru neu hyd yn oed yn symud i mewn i’r gêm broffesiynol yn Lloegr – bydd y chwaraewyr yn cael y cyfleoedd hynny gyda ni.” Kevin Speake, Cyfarwyddwr Pêl-droed.
Dywedodd Barry Roberts, Pennaeth Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Y Drenewydd a’r gymuned ehangach yn cefnogi chwaraeon ac addysg. Mae’n gyfle cyffrous i fechgyn 16 i 18 oed chwarae pêl-droed yn broffesiynol a hefyd astudio ar gyfer Lefel 3 mewn Rhagoriaeth a Pherfformiad Chwaraeon gan sicrhau cynnydd i gyrsiau eraill megis rhaglen Prifysgol neu lwybr pêl-droed proffesiynol.”
I gofrestru eich diddordeb yn y rhaglen ac i gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch scholarship@newtownafc.co.uk gyda’r manylion canlynol;
Enw llawn
Dyddiad Geni
Clybiau Presennol/Blaenorol
Safle Chwarae
Trosolwg Byr o’ch Profiad Chwarae
Ysgol Bresennol
Canlyniadau TGAU a Ragwelir
Sylwch fod gennym lety ar gael, felly rydym yn gallu derbyn chwaraewyr o unrhyw le yn y DU.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymhwyster dilynwch y ddolen isod: