Sefydliad Addysg Lee Stafford ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobr Fusnes Genedlaethol

Lee Stafford opening the salon in Afan college

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o fod yn bartner i Lee Stafford fel yr Academi Addysg Lee Stafford gyntaf a’r unig un yng Nghymru.

Mae Sefydliad Addysg Lee Stafford yn dathlu ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Addysgwr y Flwyddyn, a noddir gan Wella Professional, yng Ngwobrau Busnes Trin Gwallt Prydain HJ 2023.

Yn cael ei ystyried yn eang fel un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant, mae’r gwobrau’n cydnabod yr enwau sydd wedi cyflawni rhagoriaeth mewn busnes, gan helpu i gynnal enw da Prydain fel arweinydd byd ym maes arbenigedd trin gwallt.

Cyrhaeddodd Sefydliad Addysg Lee Stafford y rowndiau terfynol ar ôl cyflwyno cais a oedd yn tynnu sylw, yn manylu ar y sgiliau a’r profiad sydd wedi cyfrannu at lwyddiant eu gyrfa hyd yma. Yn dilyn proses feirniadu ddwys, byddant yn awr yn mynychu 25ain Gwobrau Busnes Trin Gwallt Prydain, a gynhelir eleni ar ddydd Llun 3 Gorffennaf 2023 yn y Park Plaza, Westminster Bridge yn Llundain.

Meddai’r sylfaenydd, Lee Stafford: ‘Dwi dal methu credu’r peth! Mae’r gwobrau’n uchel eu parch ar draws y diwydiant, felly mae cyrraedd y rowndiau terfynol yn anrhydedd enfawr. Rwy’n wynebu cystadleuaeth anhygoel ond rwy’n gobeithio y bydd y beirniaid yn gweld fy egni a’m hangerdd – rwy’n croesi popeth!’

Meddai Jayne Lewis-Orr, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwobrau Busnes Trin Gwallt Prydain: ‘Mae Gwobrau Busnes Trin Gwallt Prydain HJ yn ddathliad blynyddol o graffter busnes, a’r bobl a’r cwmnïau sy’n mynd yr ail filltir i sicrhau bod creadigrwydd a llwyddiant masnachol yn mynd law yn llaw. Unwaith eto, roedd ein panel o feirniaid wrth eu bodd gyda safon y ceisiadau. Er mwyn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y categori hwn, mae angen i enwebeion ddangos agwedd angerddol at addysg, gyda’r sgiliau technegol, creadigol a busnes i’w ategu. Dylai Sefydliad Addysg Lee Stafford deimlo’n hynod o falch o fod wedi cyflawni hynny a chyrraedd y rownd derfynol ochr yn ochr â dawn mor drawiadol.’

Bydd cyfanswm o 17 tlws yn cael eu dyfarnu yn y digwyddiad, a lansiwyd ym 1998 ac sydd wedi anrhydeddu enwau gan gynnwys Trevor Sorbie, TONI&GUY, Sophia Hilton, Colin McAndrew a Casey Coleman yn y gorffennol.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn dymuno’r gorau i Sefydliad Addysg Lee Stafford yng Ngwobrau Busnes Trin Gwallt Prydain ar y 3ydd o Orffennaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn yn ôl troed Lee Stafford, cliciwch ar y ddolen isod i weld y cyrsiau sydd gennym i’w cynnig.

Lee Stafford Education