Mae’n bleser gennym gyflwyno ein Rhaglen Ysgoloriaeth Llansawel newydd ar gyfer chwaraewyr talentog rhwng 16 a 18 oed. Bydd y rhaglen am ddim, mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NPTC yn rhoi cyfle i chwaraewyr astudio a hyfforddi ar sail amser llawn yn y clwb pêl-droed. Bydd y tîm hefyd yn chwarae yn y Gynghrair Colegau Cymru. Mae ein hacademi yn ffynnu ar hyn o bryd a bydd y rhaglen ysgoloriaeth newydd yn ychwanegu haen allweddol arall i’n llwybr datblygu.
“Rydyn ni wrth ein bodd i lansio’r rhaglen newydd hon sydd wedi cymryd 18 mis i gynllunio. Rydyn ni’n gweld y rhaglen hon fel cyfle ffantastig i’n chwaraewyr ifanc gael mwy o amser cyswllt gyda’n staff hyfforddi ardderchog yn yr academi, sy’n meddu ar drwyddedau proffesiynol UEFA A / UEFA, bydd chwarae yn y rhaglen hon yn cynyddu datblygiad ein chwaraewyr ifanc a chefnogi ein hamcan i sicrhau bod mwy o’n chwaraewyr datblygu/chwaraewyr yn ein hacademi yn camu ymlaen i’n tîm cyntaf sy’n chwarae yn y Gynghrair Cymru South (Y De) neu hyd yn oed yn symud ymlaen i’r gêm broffesiynol.” Andy Dyer, Cyfarwyddwr Pêl-droed.
Dywedodd Barry Roberts, Pennaeth Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Rydyn ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Llansawel a’r gymuned ehangach gan gefnogi chwaraeon ac addysg. Dyma gyfle cyffrous i fechgyn 16-18 oed i chwarae pêl-droed yn broffesiynol ar yr un pryd ag astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 3 – gan sicrhau’r cyfle i symud ymlaen i gyrsiau eraill fel rhaglen yn y brifysgol neu’n llwybr tuag at bêl-droed proffesiynol.”
Os oes gennych ymholiadau cychwynnol, cysylltwch â barry.roberts@nptcgroup.ac.uk
Dilynwch y linc isod am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngrŵp Colegau NPTC.