Cynhaliodd Coleg y Drenewydd Ŵyl Llesiant ar ddydd Mawrth 25ain Ebrill 2023. Roedd yn ddiwrnod o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog gyda’r nod o hybu iechyd a llesiant ac amlygu’r ystod o wasanaethau sy’n cefnogi iechyd meddwl cadarnhaol sydd ar gael i fyfyrwyr yn y coleg a’r gymuned ehangach.
Cafodd myfyrwyr y cyfle i gael eu hysbrydoli a’u haddysgu ym mhob agwedd ar lesiant o iechyd meddwl i lesiant corfforol, technegau ymlacio i gyngor ar harddwch a chyngor ar ddewisiadau ffordd o fyw.
Roedd yr ŵyl yn cynnwys amrywiaeth o arddangoswyr a gweithgareddau i gwmpasu llu o wahanol agweddau ar lesiant. Roedd cyfleoedd i ddysgu am ffitrwydd ac ymarfer corff, arddangosiadau yn ymwneud â bwyd a maeth, ac arbenigwyr yn rhoi cyngor ar ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli gorbryder. Cynhaliwyd sesiynau ioga drwy gydol y dydd dan arweiniad yr hyfforddwraig Julie Evans. Roedd hyd yn oed consuriwr, yr Arglwydd Harri, yn perfformio campau hudol, Paul Melton, Hebogydd, Corner Exotics a’u hamrywiaeth o bryfed, nadroedd a phryfed cop diddorol ac Emma’s Donkeys.
Dywedodd Bridget Royce, Uwch Swyddog Iechyd a Llesiant, “Mae pobl ifanc yn wynebu cymaint o rwystrau ac nid yw bob amser yn hawdd llywio drwy’r cyfnod anodd. Rydym yma fel Coleg i helpu a gwrando ar bryderon myfyrwyr ac i’w cefnogi i gyflawni eu nodau. Mae hefyd yn wych bod yn ymwybodol o faint o gymorth sydd ar gael yn yr ardal leol trwy ein partneriaid sefydliadau cymorth i fyfyrwyr niferus”.