Mae Y Gaer, amgueddfa a llyfrgell nodedig Aberhonddu, wedi agor ei drysau i ddarpar weithwyr gofal y dyfodol, gyda dosbarthiadau’r Coleg bellach yn symud i’r gofod. Gan ddechrau tymor yr haf hwn, mae gwersi Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant wedi bod yn symud o Goleg Bannau Brycheiniog, Penlan, i Y Gaer fel ffordd o wneud addysg yn fwy gweladwy a hygyrch i’r gymuned.
Gan ddechrau gyda sesiynau prynhawn y tymor hwn, mae dosbarthiadau gofal amser llawn yn cael eu cyflwyno’n raddol i fannau dysgu’r 21ain ganrif. Mae myfyrwyr o bob oed eisoes wedi bod yn mwynhau’r hwb i gyfleoedd dysgu a geir gan y cyfleuster newydd, megis grwpiau darllen ar gyfer meithrinfeydd lleol yn ardal y llyfrgell. Wedi’u cynnwys yn y cyfleusterau newydd ar gyfer y dysgwyr mae ardaloedd darllen i blant, byrddau gwyn rhyngweithiol, ac ystafelloedd dosbarth cynllun agored gyda golygfeydd hardd a digon o olau naturiol.
Mae Kelly Sherwood, Pennaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Ngrŵp Colegau NPTC yn hapus bod dysgwyr yn dechrau o’r newydd yn Y Gaer, gan ddweud: “Rydym yn falch iawn fel adran i gynnig y cyfle i fyfyrwyr astudio yn y lleoliad newydd anhygoel hwn. Rydym yn gobeithio ymgysylltu â’r dref a chyflogwyr lleol i wella’r profiad i bawb.”
Dros y ddwy flynedd nesaf mae’r Coleg yn symud ei gyrsiau a’i gyfleusterau yn raddol i Y Gaer ac adeiladau eraill yng nghanol y dref. Hefyd yn cael eu cynnal yn Y Gaer mae’r caffi sy’n cael ei redeg gan y Coleg ac adran llyfrgell benodol y Coleg i fyfyrwyr. Cyrsiau gofal amser llawn yw’r diweddaraf i symud ar ôl i ddosbarthiadau Busnes ac Addysg Oedolion ddechrau yn y CWTCH, yr hen Ganolfan Croeso, yn 2020.
Hefyd yn cael eu cynnal ar ran y Coleg mae digwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn y lleoliad.
Yn ddiweddar, cymerodd cyflogwyr ran mewn cynhadledd gyda’r Coleg ac Ysgol Calon Cymru yn Y Gaer ynghylch ffyrdd o gadw pobl a’r sgiliau y maent yn eu cynnig ym Mhowys. Ymhlith y Coleg, Ysgol Calon Cymru a’u partneriaid, mae pryderon bod yr apêl, neu “ffactorau denu,” sydd gan ardaloedd cyfagos yn annog pobl leol o bob oed i symud neu weithio i ffwrdd.
Yn cyflwyno am ddulliau newydd o ysbrydoli myfyrwyr a gweithwyr Powys i aros yn lleol roedd y busnes o’r Drenewydd Outdoortoys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Yn eu cyflwyniad, roedd Prif Swyddog Gweithredu Outdoortoys, Mandy O’Hara, eisiau “manteisio ar bob cyfle i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym Mhowys. Rwy’n credu’n bersonol mai dim ond gyda busnesau lleol yn gweithio’n agosach gydag ysgolion a cholegau y gall hyn ddigwydd.” Mae Outdoortoys yn gobeithio parhau i weithio gyda’r Coleg trwy gynnig cyfleoedd am leoliadau, yn enwedig i fyfyrwyr BTEC a rhaglenni gradd mewn Astudiaethau Busnes.
Yn y cyfamser, mae’r Bwrdd Iechyd lleol yn bartner trwy’r Coleg gyda lleoliadau’n cael eu cynnig i fyfyrwyr Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, yn ogystal â phrentisiaethau cyflog byw newydd trwy Academi Iechyd a Gofal Powys.
Wrth siarad yn y gynhadledd, dywedodd Gemma Charnock, Is-Bennaeth Cysylltiadau Allanol Grŵp Colegau NPTC: “Mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymrwymo i sicrhau bod y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn ffynnu ac yn llewyrchus. Conglfaen allweddol i’r llwyddiant hwn yw cydweithio effeithiol a chynhyrchiol rhwng yr awdurdod lleol, ysgolion, cyflogwyr lleol a’r Coleg, sy’n ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn cael pob cyfle i gyrraedd eu potensial a’n bod yn harneisio’r potensial hwnnw gyda chyfleoedd addysg a gwaith o fewn y Sir.”
Fel cyd-gadeirydd y digwyddiad, ychwanegodd Pennaeth Ysgol Calon Cymru Dr Richard Jones: “Mae Ysgol Calon Cymru yn falch iawn o allu cyfrannu at y rhwydwaith cydweithredol hwn ac edrychwn ymlaen at feithrin partneriaethau cynaliadwy a strategol a fydd o fudd i’n holl ddysgwyr yma ym Mhowys.”
Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Portffolio ar gyfer Powys Fwy Ffyniannus: “Mae Cyngor Sir Powys yn croesawu Coleg Bannau Brycheiniog i Y Gaer. Mae croeso arbennig i gyrsiau ar iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, ac rydym yn bwriadu archwilio ymhellach sut y gallwn weithio ar y cyd er budd Aberhonddu a’r cymunedau cyfagos. Rydym yn gyffrous i weld y caffi sy’n cael ei redeg gan y coleg ar waith, gan ddarparu atyniad ychwanegol i bob ymwelydd â’r Gaer.”