Brasgamodd y Gwobrau Chwaraeon yn ôl i Grŵp Colegau NPTC ar ôl cyfnod hir o aros a seibiant o ddwy flynedd o ganlyniad i’r pandemig.
Aeth dwsinau o fyfyrwyr i’r digwyddiad a a gynhaliwyd yng Nghlwb Criced Castell-nedd a chyflwynwyd gwobrau iddynt a oedd yn cynnwys cydnabyddiaeth am anrhydeddau rhyngwladol ac anrhydeddau’r sir, cynrychioli’r Coleg, gwobrau ar gyfer y chwaraewyr sydd wedi gwella fwyaf oll; Mabolgampwr y flwyddyn (gwrwyaidd a benywaidd) a thystysgrifau i wobrwyo campau rhai o’r myfyrwyr chwaraeon elitaidd hefyd.
Dywedodd Joanna Williams-Jones, trefnydd a darlithydd Chwaraeon ei bod yn noson enfawr i bawb.
“Mae wedi bod yn anodd iawn i’r gafarn hon am sawl flwyddyn ac rydyn ni’n ymwybodol eu bod nhw wedi gwneud eu gorau glas er hynny o ran astudio a chwaraeon, felly dyma ffordd o ddangos ein bod yn gwerthfawrogi eu holl ymdrechion. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn fod modd cynnal y seremoni yn fyw wyneb yn wyneb unwaith eto.”
Tynnwyd sylw arbennig hefyd i’r myfyrwyr chwaraeon a oedd wedi cymryd rhan yn y daith Erasmus yn ddiweddar. Teithiodd y llysgenhadon ifanc i Sbaen i ddarparu sesiynau chwaraeon yn IES Sierra de Mijas, ysgol i ddisgyblion 14–21 oed. Treuliodd y myfyfrwyr bythefnos yn hyfforddi chwaraeon yn cynnwys rygbi a phêl-rwyd a oedd yn hollol newydd i’r myfyrwyr Sbaeneg. Cymerodd y myfyrwyr canlynol ran yn y daith: Elis Griffiths, Alfie Fairhead, Laicee John, Tacha Brooks a Luke Thomas.
“Roedd hi’n ffantastig eu gweld yn datblygu eu sgiliau mewn arweinyddiaeth, cyfathrebu a gwaith tîm. Er gwaethaf y rhwystr ieithyddol am nad oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn siarad llawer o Saesneg, daeth pawb yn ffrindiau mawr.” dywedodd Lindsay Piper darlithydd Chwaraeon.
Cyflwynwyd gwobrau i’r myfyrwyr canlynol: Llun 37:
Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn – Alfie Fleming-Powell; Y Chwaraewr Pêl-droed sydd wedi gwella fwyaf – Callum Sullivan; Chwaraewr Pêl-rwyd y Flwyddyn – Beth Jones; Y Chwaraewr Pêl-rwyd sydd wedi gwella fwyaf – Sophia Thomas; Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn – Molly Dykes; Y Chwaraewr Pêl-droed sydd wedi gwella fwyaf – Georgia Wilks; Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn – Lily Anne Roberts; Y Chwaraewr Rygbi sydd wedi gwella fwyaf – Lexy Lee; Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn – Evan Hill;Y Chwaraewr Rygbi sydd wedi gwella fwyaf – Corey Westermark; Sbortswraig Y Flwyddyn – Millie Blake; Sbortsmon Y Flwyddyn – Evan Hill; Y Wobr Kieran Sparrow – Sam Davies;
Rhoddwyd Anrhydeddau Grŵp a thystysgrif Gyflawni i’r myfyrwyr canlynol:
Dinas Abertawe o dan 19 – Katie Lee; Llansawel o dan 19 – Molly Dykes; Tîm Menywod y Gweilch o dan 18 – Lilly Roberts; Izzy Lewis; Maddison Hines; Tîm Cymru o dan 20 – Evan Hill; Tim Dynion y Gweilch o dan 18 – Oliver Addis-Fuller; Evan Hill (Capten); Oliver Jones; Brychan Wood; Charlie Thomas; Llewellyn Hawkes; Cymru Premier – Evan Hill (Clwb Rygbi Abertawe); Tarik Dabeh (Clwb Rygbi Castell-nedd); Llewellyn Hawkes (Clwb Rygbi Castell-nedd); Pêl-rwyd Sir Afan Nedd Tawe – Lilly Roberts; Pêl-rwyd ColegauCymru – Abbie Diiulio; Gymnasteg – Josie Gittins- Afan Nedd Tawe; Bocsio –Owen Thomas- British Amateur Boxing Council Pencampwr Iau Pwysau Canol; Mabolgampau – Sam Davies- Naid Uchel:Uwch Chwaraewr Cymru a Phencampwr o dan 20; Matthew Cox- Rhedeg Traws Gwlad, Afan Nedd Tawe; Golff – Sam Peet- Uwch Dîm Cymru; Criced ColegauCymru –Ben Williams; Tom Carrol; Sam Burton; Scott Evans; Lewis Henry; Luke Thomas; Lloyd Jones; Tom Evans; Joe Knoyle; Oliver Suter; Millie Blake; Codi Pwysau Cymru – Elin Haf Tossell.