Am yr ail flwyddyn yn olynol, cynhaliwyd Gŵyl Jazz cynnar sef Diwrnod Blasu y tu allan i’r CWTCH, Aberhonddu, gan fyfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog. Mewn cydweithrediad â Chlwb Jazz Aberhonddu ar ddydd Iau 8 Mehefin, roedd Ensemble Jazz Coleg Castell-nedd ar y brig gyda myfyrwyr Astudiaethau Busnes yn helpu i gynfasu’r Ŵyl Haf sydd ar y gweill a gofyn am gyfraniadau. Roedd perfformiadau hefyd yn Sgwar Bethel gan Debs Hancock (canwr) ac Eddie Gripper (piano).
Rhwng popeth, roedd y diwrnod yn llwyddiant i bawb a gymerodd ran ynddo. Roedd mwy o aelodau yn yr Ensemble Jazz eleni na’r llynedd, gyda mwy nag ugain o berfformwyr o bob oedran yn teithio i Aberhonddu gyda’r tywysydd Ceri Rees yn eu harwain. Uchafbwynt y digwyddiad eleni oedd llais prif ganwr yr ensemble sef Molly a oedd yn tynnu sylw clustiau pawb a gerddodd heibio
Cafodd y digwyddiad ei gynllunio dros sawl mis, am ei bod yn rhan o waith cwrs myfyrwyr y cwrs BTEC mewn Astudiaethau Busnes. Er mwyn llwyddo yn y gwaith cawrs, mae dysgwyr yn gweithio fel rhan o dîm, hyrwyddo a chynnal digwyddiad wrth gydweithio â Gŵyl Jazz rhywbeth sy’n hollol naturiol yn y fro. Roedd y dysgwyr wedi creu a chynfasu’r poster ar gyfer y digwyddiad, taflen gyda llinell amser o hanes yr ŵyl, yn ogystal â fideo o luniau o’r ŵyl a dangoswyd ar sgriniau teledu’r CWTCH wrth i’r ensemble berfformio ei ganeuon.
Roedd y myfyriwr BusnesTilly Powell am roi gwybod i bawb “Rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn fel dosbarth ar gyfer y digwyddiad heddiw. Llynedd, clywais y gerddoriaeth y tu allan i’r CWTCH wrth weithio. Galwais heibio i siarad â Mina a Rob, y tiwtoriaid, a swniodd y cwrs yn wych. Nawr dwi’n hapus fy mod i wedi cael ychydig o brofiad ymarferol wrth baratoi’r digwyddiad cerddorol eleni.”
Dywedodd Christine Davies, Pennaeth Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn y Coleg: “Mae pawb sydd wedi bod yn rhan o Ddiwrnod Blasu Gŵyl Aberhonddu eleni wedi darparu digwyddiad cerddoriaeth cadarnhaol a oedd yn ysbyrydiolaeth i gymuned Aberhonddu. Magwyd hyder y myfyrwyr a phrofiad wrth greu’r digwyddiad hwn ar gyfer eu gwaith cwrs ac maent wedi codi cannoedd o bunnoedd ar y diwrnod mewn rhoddion ar gyfer Gŵyl Aberhonddu.”
“Diolch hefyd i’r tîm rhagweithiol yng Nghlwb Jazz Aberhonddu, i Ensemble Jazz Coleg Castell-nedd, ac i Mina, Michelle, Rob, Maya a Matthew o Goleg Bannau Brycheiniog sydd wedi gweithio’n galed trwy gydol y flwyddyn ar y digwyddiad hwn.”
Cynhelir deugeinfed gŵyl Gŵyl Jazz Aberhonddu ym mis Awst – 11 -13 Awst bydd y prif benwythnos gyda pherfformiadau hefyd ar ddydd Sul 6, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Awst. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ewch i www.breconjazz.org.