Llongyfarchiadau i enillwyr Gwobr y Gyfraith Grŵp Colegau NPTC am Gyflawniad Eithriadol eleni, a noddir gan Jennifer Melly Law. Enillwyr y wobr eleni ar gyfer myfyrwyr y gyfraith a berfformiodd orau oedd Alys Cooke ac Alex Thomas, y cyflwynwyd eu tystysgrifau a’u tlysau iddynt yn ystod y seremoni wobrwyo a’r dathliad yn swyddfeydd Jennifer Melly Law, sydd wedi’i lleoli yng Nghastell-nedd.
Astudiodd Alys Safon Uwch yn y Gyfraith, Daearyddiaeth a Seicoleg tra bu Alex yn astudio Safon Uwch yn y Gyfraith, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (cyfunol) ac Astudiaethau Busnes. Roedd y ddau yn rhan o raglen GATE (rhaglen Rhagoriaeth Dawnus a Thalentog) sy’n cael ei rhedeg yn y coleg.
Llwyddodd y ddau fyfyriwr i ennill graddau A* rhagorol ar gyfer Safon Uwch yn y Gyfraith ym mis Awst 2022.
Dywedodd y Rheolwr Sgiliau Craidd a Darlithydd y Gyfraith, Naomi Davies: “Dangosodd Alys ac Alex ymrwymiad eithriadol i’w hastudiaethau ac roeddent yn llysgenhadon gwerthfawr i’r Coleg mewn digwyddiadau fel Nosweithiau Agored a Diwrnodau Blasu.”
“Mae gan Grŵp Colegau NPTC draddodiad balch bod llawer o’n myfyrwyr sy’n astudio Safon Uwch yn y Gyfraith yn mynd ymlaen i astudio’r Gyfraith yn y brifysgol; mae Alys ac Alex yn parhau â’r traddodiad hwn ac mae’r ddau ar hyn o bryd yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerwysg.”
Yn ogystal â derbyn tystysgrif a thlws, mae’r myfyrwyr wedi gwarantu lleoliadau profiad gwaith i’w hunain gyda chwmni hynod lwyddiannus Jennifer Melly Law a fydd yn sicr yn eu helpu mewn maes gwaith mor gystadleuol.
Rydym ni yng Ngrŵp Colegau NPTC yn dymuno’r gorau i Alys ac Alex ar gyfer dyfodol disglair a llwyddiannus.