Daeth y sioe ‘Seren Stars’ yn ôl i Theatr Brycheiniog ddydd Gwener 16 Mehefin; y tro cyntaf i berfformiad o’r fath ddigwydd ers y pandemig! Nawr, ar ei nawfed sioe, mae Seren Stars yn gwmni’r celfyddydau perfformio ar gyfer plant yn eu harddegau a phobl ifanc o Goleg Bannau Brycheiniog ac Ysgol Penmaes.
Mae’r grŵp yn cynnig gwersi yn y celfyddydau perfformio i ddysgwyr ag anghenion cymhleth ac yn rhoi lle unigryw iddynt roi cynnig ar ddulliau celf amrywiol. O berfformiadau dawns i gomedïau a roc a rôl, roedd y llwyfan wedi’i baratoi ar gyfer sioe fywiog ddydd Gwener. Ar ôl blwyddyn o gynllunio ac ymarfer, daeth y grŵp at ei gilydd ar gyfer detholiad o ganeuon, jôcs, cyflwyniadau difyr a mwy. Roedd yr uchafbwyntiau yn cynnwys perfformiad mewn grŵp o ‘Sweet Caroline,’ ‘George’s Balloon Art’ a set gomedi fyw Finlay!
Gallai’r staff a oedd yn gweithio gyda’r myfyrwyr weld sut gymaint yr oedd ei hyder wedi’i fagu drwy gydol y flwyddyn gan sylwi y dylai’r myfyrwyr fod yn falch iawn.
Dywedodd y myfyrwyr Sgiliau Bywyd o Goleg Bannau Brycheiniog “roedd y profiad yn ein gwneud yn hapus ac yn gyffrous ac roedd yn brofiad bythgofiadwy, Byddwn ni’n gorffen y flwyddyn ar nodyn gadarnhaol dros ben.”