Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr Celfyddydau Perfformio o Goleg y Drenewydd a gynhaliodd berfformiad trawiadol, egni uchel o American Idiot yn Theatr Hafren yn ddiweddar. Roedd y sioe theatr llawn cerddoriaeth a dawns di-stop yn cynnwys caneuon gan y band roc Americanaidd Green Day.
Mae’r stori’n dilyn bywydau tri ffrind sy’n brwydro i ddod o hyd i ystyr mewn byd yn dilyn 9/11. Cyflwynodd y ffrindiau, a bortreadwyd gan Nye Parton, Blu Robinson a Rhys Williams berfformiadau argyhoeddiadol o bobl ifanc gwrthryfelgar yn ceisio torri i ffwrdd o’u bywydau swbwrbaidd. Cafwyd perfformiadau pwerus hefyd gan Eva Dimitriou a Dillon Morgan-Worley, a daeth y cast i gyd â rhywbeth o’u dehongliad eu hunain i’r perfformiad, boed yn arddull dawns, gwallt, neu wisg.
Roedd y sioe yn cynnwys caneuon fel ‘Boulevard of Broken Dreams’, ‘She’s a Rebel’ a’r brif gân ‘American Idiot’ o albwm aml-blatinwm 2004, gan ddiddanu’r gynulleidfa wrth iddynt hefyd deimlo eu bod wedi bod i gig cerddoriaeth.
Ychwanegodd y darlithydd, Ruth Calvert: “Eleni dewisodd y myfyrwyr wneud American Idol gyda’i apêl o ran egni uchel, cerddoriaeth bwerus, a stori y gellir uniaethu â hi. Roeddent eisiau diweddaru’r sioe a thynnu sylw at faterion cyfoes ac ystyried sut y byddent wedi effeithio ar y cymeriadau o fewn y sioe. Dwi’n meddwl eu bod nhw’n teimlo y gallen nhw uniaethu â rhai o’r brwydrau roedd y cymeriadau’n eu teimlo ar adegau, ac roedd hyn yn eu helpu i berfformio gydag emosiwn. Rhoddodd y myfyrwyr bopeth oedd ganddynt yn eu perfformiadau, a dangosodd hyn yn eu cyflwyniad. Rydym yn hynod falch o sut aeth y sioeau, ac roedd yr adborth a dderbyniwyd gan y cynulleidfaoedd yn wych gyda’r gynulleidfa ar eu traed yn ystod eu perfformiad olaf.”