Jazz Aberhonddu a Dysgwyr Busnes yn Agor Oriel Haf ar Hanes yr Ŵyl

Four students sitting under Brecon Jazz Festival posters, pointing upwards at them, at the launch of the Brecon Jazz Gallery opening.

Mae arddangosfa oriel Jazz Aberhonddu newydd wedi agor yr haf hwn yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, gyda chefnogaeth Grŵp Colegau NPTC. Mae’r arddangosfa’n dangos deugain mlynedd o bosteri Gŵyl Jazz Aberhonddu mewn pryd ar gyfer rhaglen mis Awst eleni. Yn helpu i agor yr oriel roedd dysgwyr Astudiaethau Busnes Lefel 3 o Goleg Bannau Brycheiniog, yr oedd eu dyluniadau posteri’r Ŵyl hefyd yn cael eu harddangos o’u gwaith cwrs eleni.

Fis diwethaf, roedd y dysgwyr Lefel 3 wedi uno ag Ensemble Jazz Coleg Castell-nedd i drefnu diwrnod blasu cerddorol a gweledol y tu allan i’r CWTCH, Hyb Cymunedol y Coleg. Fel rhan o’u gwaith cwrs, bu’n rhaid i’r dysgwyr reoli a hyrwyddo digwyddiad, a oedd yn cynnwys drafftio a dylunio’r posteri yn rhoi cyhoeddusrwydd i hyn, sydd bellach yn cael eu harddangos yn y theatr. Y poster buddugol a oedd yn hyrwyddo’r diwrnod blasu oedd yr un coch (yn y llun yn y canol isaf) fel y’i dewiswyd gan y dosbarth eu hunain a Chlwb Jazz Aberhonddu.

Dywedodd y Tiwtor Busnes yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, Romina West, fod yr oriel yn: “Arddangosfa wych o’r gwaith caled y mae ein myfyrwyr wedi’i wneud yn eu gwaith cwrs gyda’r prosiect Jazz eleni. Roedd agor yr oriel yn ffordd hwyliog i rai o’n dysgwyr ddod â’r flwyddyn Goleg hon i ben a gweld sut mae’r Ŵyl wedi newid dros amser. Rwy’n falch iawn o’u holl waith a’u cyflawniadau hyd yn hyn ac yn ddiolchgar i Glwb Jazz Aberhonddu am wireddu’r arddangosfa oriel hon yn y Theatr.”

Yn ogystal â’r dysgwyr Busnes, agorwyd yr oriel gan aelodau o Glwb Jazz Aberhonddu gydag ymwelwyr gwadd Richard Walters o Sioe Aberhonddu, a’r canwr jazz, cyfansoddwr a darlithydd prifysgol o Gaerdydd, Dionne Bennett.

Gwahoddwyd Dionne hefyd i fynychu cyfarfod Coleg-Gŵyl, i archwilio a meithrin mwy o gysylltiadau â’r ddau sefydliad. Mae’r tîm Jazz yn edrych ar syniadau i gysylltu cerddoriaeth jazz a’r celfyddydau creadigol yn fwy cyffredinol, trwy rwydwaith y Coleg a Dionne, gyda chynulleidfa iau a mwy amrywiol nag o’r blaen.

Ar y posibilrwydd o ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn yr Ŵyl Jazz a’r celfyddydau, dywedodd Dionne:

“Rwy’n gyffrous iawn i ymuno â’r Coleg trwy brosiect yr Ŵyl Jazz ac i gynyddu amrywiaeth, cynhwysiant a dod ag elfen iau i’r Ŵyl. Mae plant heddiw yn gwrando ar ac yn chwarae cerddoriaeth jazz, a ddim yn gwybod y cefndir na hyd yn oed mai jazz yw’r hyn maen nhw’n ei chwarae! Rwy’n edrych i weld yr ŵyl wych hon yn cael ei hadfywio ac agor y genre jazz i fyny.”

Dywedodd Clwb Jazz Aberhonddu: “Dim ond 21 oed yw ein prif artist ar gyfer yr Ŵyl (y seren o sacsoffonydd Emma Rawicz) fydd ar y prif lwyfan nos Sadwrn. Mae gennym hefyd raglen ddiwylliannol amrywiol iawn ar gael eto – ond hoffem weld cynulleidfa iau a mwy amrywiol  yn cymryd rhan yn Jazz Aberhonddu ar gyfer ei 40ain flwyddyn hefyd! Felly mae’n bleser gennym ddatgelu y bydd tri o grŵp y Coleg eleni yn parhau gyda ni ar gytundebau gweithio ‘llawrydd’ bach, gan helpu gyda gwaith yr Ŵyl. Mae’r cydweithio felly yn cael effaith sylweddol yn barod ac mae llawer mwy y gallwn ni i gyd ei wneud a’i gyflawni trwy gydweithredu.”

Meddai Christine Davies, Cyfarwyddwr Arloesi Rhaglenni yng Ngrŵp Colegau NPTC bod tîm y Clwb Jazz wedi bod yn “ysgogwr yn ymglymiad y Coleg,” a chroesawodd Dionne, a’i chydweithiwr Guto, i’r CWTCH, Coleg Bannau Brycheiniog. Ar ran Grŵp y Coleg, dywedodd Christine eu bod yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phob parti y tymor nesaf.

Mae’r oriel yn rhad ac am ddim i ymweld â hi ar lawr uchaf Theatr Brycheiniog drwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst.