Mae nifer o gyrsiau rhifedd a mathemateg sydd newydd eu lansio bellach ar gael am ddim yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Mae’r cynllun Multiply yn amrywiaeth o gyrsiau rhad ac am ddim a ariennir gan y llywodraeth i helpu oedolion a theuluoedd i wella eu sgiliau rhifedd a mathemateg.
Mae sgiliau rhifedd yn hanfodol ym mhob agwedd ar fywyd. Maent yn datgloi cyfleoedd gwaith, yn eich helpu i gyfrifo’ch cyllideb wythnosol, yn eich galluogi i helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref, neu’n eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach.
Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i helpu unrhyw un 19 oed a throsodd nad oes ganddynt TGAU Mathemateg ar hyn o bryd. Mae’r cyrsiau rhad ac am ddim trwy Multiply yn magu hyder gyda rhifau ac yn galluogi dysgwyr i ennill cymhwyster cydnabyddedig.
Mae’r cyrsiau’n cwmpasu lefelau sgiliau amrywiol sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm mathemateg newydd. Maent yn defnyddio nifer o ddulliau cyflwyno, o e-ddysgu a sesiynau hybrid i gyflwyniad personol ac fe’u cynhelir mewn lleoliadau hygyrch fel llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, clybiau chwaraeon, ysgolion, y Coleg neu hyd yn oed yn y gweithle.
Y tri chynllun y bydd y Coleg yn eu cynnig yw Numeracy at Home – ar gyfer plant a theuluoedd sydd eisiau gwella sgiliau rhifyddeg sylfaenol a mathemateg bob dydd, Numeracy Matters –rhaglen hyfforddi rhifedd ar gyfer gweithwyr, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer cyflogwyr lleol i ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu, a Numeracy for Success – wedi’i gynllunio i helpu dysgwyr i gamu’n ôl i addysg neu uwchsgilio.
Gall dysgwyr ddarganfod mwy a chofrestru eu diddordeb isod.