Mae myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn dathlu ar ôl cyflawni canlyniadau arbennig yn eu cymwysterau Safon Uwch a galwedigaethol.
Mae dosbarth 2023 wedi cyflawni cyfradd llwyddo gyffredinol o bron i 99 y cant. Roedd nifer y graddau A* – B yr un peth â’r llynedd, gyda llawer mwy na hanner o fyfyrwyr yn cyflawni’r graddau hynny. Llwyddodd bron i draean y myfyrwyr i ennill graddau A*- A, a chafodd llawer mwy na tri chwarter ohonynt raddau A* – C. I’r myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen Dawnus a Thalentog (GATE) mae rhagor o newyddion da, gydag 84 y cant yn cyflawni graddau A* – A a 100 y cant yn derbyn graddau A* – B.
Cafwyd llwyddiant mawr hefyd gan y myfyrwyr oedd yn sefyll eu cymwysterau Galwedigaethol Lefel 3, gyda 70 o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagoriaeth, a 24 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil gradd uchaf posibl o seren rhagoriaeth driphlyg sy’n gyfwerth â thair A* mewn Safon Uwch.
At hynny, cyflawnodd 376 o ddysgwyr y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn llwyddiannus gyda chyfradd lwyddo arbennig o 100 y cant, gyda 58 y cant yn cyflawni graddau A* i C.
Mae llawer o fyfyrwyr wedi sicrhau lleoedd yn y prifysgolion gorau a gall eraill ddilyn eu llwybrau gyrfa o ddewis erbyn hyn ar ôl cyflawni’r graddau sydd eu hangen arnynt i gamu ymlaen.
Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd gyda’r canlyniadau:
“Mae hyn o ganlyniad i holl waith caled ein myfyrwyr a’n staff a dylid eu canmol i’r eithaf am yr holl ymdrechion a wnaethpwyd i gyflawni’r canlyniadau hyn.
“Mae’r canlyniadau unwaith eto’n anhygoel gyda chyfradd llwyddo gyffredinol o bron i 99 y cant a’r graddau A* yn un peth â’r llynedd*. Roedd ein myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen GATE) hefyd yn hynod o lwyddiannus gydag 84 y cant yn cyflawni graddau A*/A.
“Unwaith eto, cafwyd llwyddiant mawr gan ein myfyrwyr galwedigaethol gyda 70 o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagoriaeth a 24 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl sef rhagoriaeth serennog sy’n cyfateb i dair A* ar Safon Uwch.
“At hynny, cyflawnodd 376 o ddysgwyr y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn llwyddiannus gyda chyfradd lwyddo arbennig o 100 y cant, gyda 58 y cant yn cyflawni graddau A* i C.”
Mae Katie Jones, myfyrwraig Safon Uwch, yn mynd i Brifysgol Rhydychen i astudio Saesneg Iaith a Llenyddiaeth ar ôl cyflawni tair A* anhygoel mewn Mathemateg, Llenyddiaeth Saesneg a Seicoleg. Meddai, “Rwyf mor falch o gael fy nghanlyniadau o’r diwedd ac rwy’n gyffrous ynghylch yr hyn sydd gan gam nesaf fy addysg.”
Enillodd Eleanor Mogridge A* mewn Mathemateg, A* mewn Mathemateg Bellach ac A* mewn Ffiseg. Mae hi wedi cael ei derbyn i astudio Gwyddorau Naturiol yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt.
Enillodd y myfyriwr Safon Uwch Scarlett Dunsford radd A* ardderchog mewn Cemeg, A* mewn Bioleg ac A* mewn Seicoleg, ac mae wedi cael ei derbyn i astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Manceinion.
‘’Roeddwn i wrth fy modd yn astudio Cemeg yn y Coleg, roedd y cymorth gan fy narlithwyr wedi bod yn anhygoel ac yn gwneud i mi eisiau barhau gyda hyn yn y brifysgol. Doeddwn i erioed yn meddwl y byddai modd i mi gyflawni 3 A* ar Safon Uwch ond, gyda’u cymorth, rydw i wedi llwyddo yn hyn o beth!”
Cyflawnodd Emily McManus 3 A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg ac mae nawr ar ei ffordd i astudio Ffiseg ac Astroffiseg.
Cyflawnodd Mila Collins A mewn Mathemateg, A mewn Ffiseg ac A mewn Drama.
Derbyniodd Olivia Cockwell, myfyriwr BTEC Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ragoriaeth driphlyg serennog syfrdanol. Mae hi’n aros yn y coleg i astudio HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Academi Chwaraeon Llandarcy.
Llwyddodd Megan King, myfyriwr hynod o hapus, i ennill y graddau sydd eu hangen arnynt i astudio Archeoleg a Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd gyda gradd B mewn Hanes yr Henfyd; A* mewn Saesneg Iaith, A* mewn Llenyddiaeth Saesneg ac A* yn ei Phrosiect Estynedig. Dywedodd Megan: “Mae’r Coleg wedi bod yn wych, ac rwy’n teimlo rhyddhad wrth dderbyn y canlyniadau angenrheidiol i astudio yn y brifysgol.”
Mae Grace Evans ar ei ffordd i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl cyflawni graddau B mewn Cymdeithaseg, Seicoleg a Chelf. “Mwynheais Goleg Castell-nedd yn fawr ac mae’r cymorth gan y staff wedi bod yn wych,” dywedodd.
Roedd Neve Coombes wedi mwynhau ei gwersi Ffrangeg yn y coleg sut gymaint, penderfynodd astudio’r pwnc yn y brifysgol ac ar ôl cyflawni A mewn Addysg Grefyddol Safon Uwch, A mewn Drama ac A* mewn Ffrangeg ac mae hi wedi cael cynnig am le ym Mhrifysgol Caerdydd. Esboniodd:”Mwynheias fy ngwersi mewn Ffrangeg sut gymaint; roedd awyrgylch mwy ymlaciol na gwersi’r ysgol ac roedd fy narlithwyr wedi fy nghefnogi i’r dim i gyflawni i’r eithaf.”
Mae Luke Thomas sef myfyriwr BTEC Lefel 3 mewn Hyfforddiant Chwaraeon wedi penderfynu aros yn Academi Chwaraeon Llandarcy i astudio HND mewn Hyfforddiant Chwaraeon ar ôl cyflawni gradd rhagoriaeth driphlyg serennog.
Roedd Megan Parfitt wrth ei bodd gyda’i chanlyniadau sef 3 A ar Safon Uwch – cyflawnodd A* mewn Cyfrifiadureg, A*mewn Mathemateg ac A* mewn Mathemateg Bellach. Mae hi ar ei ffordd i Brifysgol Bryste i astudio Cyfrifiadureg. Wrth fyfyrio ar ei hamser yn y coleg, dywedodd fod ei darlithwyr mor gefnogol ac ni fyddai hi wedi cyflawni canlyniadau fel hyn heb y darlithwyr.
Enillodd Isabel Williams radd driphlyg A* ar Safon Uwch – A* mewn Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, A* mewn Mathemateg ac A* mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth. Mae ar ei ffordd nawr i Brifysgol Caerfaddon i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Ffrangeg.
Roedd Isabel wrth ei bodd gyda’i chanlyniadau, a’i mam falch hefyd a oedd yn argymhell y Coleg i’r eithaf: “Mae Isabel wir yn haeddu ei chanlyniadau, mae hi wedi gweithio mor galed ac rwy’n mor falch ohoni hi. Fel rhiant, dim ond pethau cadarnhaol sydd gen i i’w dweud am y Coleg, mae ei darlithwyr ym mhob un o’r pynciau wedi bod yn ardderchog – yn gefnogol drwyddi draw ac mae ei chanlyniadau yn dyst o hyn oll.”
Enillodd Jemima Gorman A* mewn Bioleg, A mewn Mathemateg, A mewn Cemeg ac A yn ei Phrosiect Estynedig. Roedd hi wrth ei bodd i dderbyn cynnig i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, cyflawnodd James Vaughan ragoriaeth driphlyg yn ei gymhwyster Lefel 3 yn y Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai. Mae James yn symud ymlaen i radd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Edge Hill, Ormskirk, gan obeithio symud ymlaen i Wyddor Fforensig Filfeddygol.
Mae myfyrwyr Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn camu ymlaen i gyrsiau nyrsio ar lefel gradd ar ôl llwyddo yn eu harholiadau, gyda Nicole Davies yn mynd i Brifysgol Abertawe a Laura Griffiths yn mynd i Brifysgol De Cymru.
Enillodd John Evans sef dysgwr aeddfed o’r cwrs Lefel 3 mewn Busnes a’r Gyfraith Gymhwysol, radd Rhagoriaeth Teilyngdod mewn Astudiaethau Busnes a gradd lwyddo yn y Gyfraith ac roedd ei bartner Sam wedi llwyddo i ennill ei thystysgrif yn y Gyfraith hefyd. Mae John a Sam yn symud ymlaen i Brifysgol De Cymru i astudio gradd yn y Gyfraith a gradd sylfaen.
Yng Ngholeg Y Drenewydd, enillodd Eva Dimitriou Ragoriaeth mewn Diploma Estynedig Lefel 3 UAL yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu. Mae hi’n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio gradd BA (Anrh) Theatr Gerddorol.
Llwyddodd Meggan Parkes, myfyriwr arall o’r cwrs Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lefel 3 UAL i gyflawni Rhagoriaeth hefyd ond bydd hi’n dychwelyd i’r coleg i astudio Diploma Proffesiynol mewn Perfformio Lefel 4 UAL.
Cyflawnodd Ruby Morgan Ragoriaeth mewn Celf ac mae hi’n mynd i Birmingham Met i astudio BA (Anrh) Celf Gain.
Yn gyfarwydd â bod ar y llwyfan, enillodd Nye Parton Ragoriaeth anhygoel yn y cymhwyster Diploma Estynedig UAL Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu ac mae ganddi le yn The Backstage Academy yn Bolton i astudio BA (Anrh) mewn Rheoli’r Llwyfan a Chynhyrchu.
Enillodd Alex Willingham radd Teilyngdod yn y cymhwyster Diploma Estynedig Lefel 3 UAL yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu. Bydd yn mynd i Academi’r Cyfryngau Lerpwl i astudio BA (Anrh) mewn Actio a Pherfformio.
Cyflawnodd Deilyngdod Triphlyg gan Tomas Roostan sef myfyriwr BTEC Diploma Estynedig mewn TG.