Mae Prentisiaid Hyfforddiant Pathways wedi bod yn dathlu eu cyflawniadau dros yr haf mewn amrywiaeth o sectorau galwedigaethol. Mae’r fframwaith yn cynnwys NVQ, Tystysgrif Dechnegol a chymwysterau Sgiliau Hanfodol a BTEC. Cyflogir pob prentis gan gyflogwyr lleol.
Mae rhai o’r rheiny a gasglodd dystysgrifau yn ddiweddar yn cynnwys;
Prentisiaeth Lefel 5 Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Oedolion
Hayley Foy wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 5 Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Oedolion. Ar hyn o bryd mae Hayley yn gweithio yn Affinity Home Care, Y Drenewydd fel dirprwy reolwr a chydlynydd iechyd a gofal cymdeithasol – gwasanaethau gofal cartref.
Mae’r sector Iechyd a Chymdeithasol yn ymgymryd â chymhwyster Lefel 5 ar gyfer eu cofrestriad ac i gydymffurfio â safonau. Penderfynodd ddilyn y brentisiaeth gyda’r prif nod o gyflawni cymhwyster uwch i’w helpu i symud ymlaen yn ei gyrfa.
Dywedodd Hayley: “Fe wnes i wir fwynhau cwblhau fy Lefel 5. Rhoddodd fwy o wybodaeth a dealltwriaeth i mi o’r gweithdrefnau cywir i’w dilyn er mwyn fy ngalluogi i gefnogi fy nhîm ac i hyrwyddo gweithlu hapus.”
Dywedodd Tracy Woodward, rheolwr Affinity Home Care: “’Rwyf nawr yn teimlo’n hyderus y gall Hayley gymryd yr awenau os a phan fyddaf yn ymddeol.”
BTEC Lefel 3 Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig
Enillodd Georgia Murkin Ragoriaeth yn y BTEC Lefel 3 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i wneud cwrs HNC dwy flynedd ym Mannau Brycheiniog ac yna mynd i’r Brifysgol.
Dechreuodd Georgia weithio yn y diwydiant adeiladwaith gyda gwybodaeth gyfyngedig ond mae bellach wedi ennill dealltwriaeth eang o sut mae’r diwydiant adeiladwaith yn gweithredu. Mae hi’n gweithio i Tarmac fel syrfëwr meintiau dan hyfforddiant. Dywed iddi fwynhau’r brentisiaeth, sef y profiad o ddysgu gyda chefnogaeth y darlithwyr yn y coleg a’i rôl o fewn diwydiant.
Dywedodd y darlithydd Erfyl Hughes: “Fe wnaeth gwaith caled Georgia dalu ar ei ganfed wrth iddi gyrraedd y radd uchaf. Hoffwn ddymuno’r gorau iddi hi a’i chyd-fyfyrwyr Naomi Friel ac Oliver Morgan yn eu gyrfaoedd.”
Plymio a Gwresogi Lefel 2
Llwyddodd Emilio Jones yn ei gwrs Plymio a Gwresogi Lefel 2 ac mae’n symud ymlaen i wneud ei Lefel 3.
Jonathon Reynolds sydd wedi cwblhau ei gwrs Plymio a Gwresogi Lefel 2 ac yn gobeithio mynd ymlaen i wneud ei dystysgrifau Nwy.
Mae’r ddau brentis wedi bod yn gweithio fel prentisiaid peirianwyr plymio a gwresogi, gan weithio ochr yn ochr â pheirianwyr cymwys o fewn EOM, y cwmni y maent yn gweithio iddo, gan uwchraddio ystafelloedd ymolchi a systemau gwresogi.
Dywedodd eu cyflogwr Mike Mills o EOM: “Mae Emilio a Jon wedi gweithio’n galed, mae’r ddau wedi ffitio’n dda yn y tîm, yn dysgu’r gwaith yn gyflym ac mae dyfodol positif o’u blaenau.”