Dal i Fyny â’r Galw – Chyflenwi Rig Hyfforddi Trydan/Hybrid Newydd

Lecturers and the new Hybrid Electric Rig At Newtown College

Daeth Oscar Block a Lee Trussler i gyfarfod â staff adran cerbydau modur Coleg Y Drenewydd a danfon eu hail rig hyfforddi cerbydau Toyota Prius Trydanol/Hybrid.  Prynodd y rig cyntaf yn 2019 a dyma’r rig hyfforddi cerbydau trydanol/hybrid cyntaf i gael ei ddanfon i sefydliad addysg bellach yng Nghymru.  Mae’r rig yn rhan annatod o’r cyrsiau hyfforddi a ddarparir gan y Coleg ar atgyweirio a newid systemau cerbydau hybrid a thrydanol o lefel 1 i lefel 4.  Bydd yr ail rig yn ychwanegu at ei gyfarpar a chynyddu capasiti’r cyrsiau dros y flwyddyn nesaf.

Oscar Block yw’r drydedd cenhedlaeth o’r teulu Block i weithio ym maes cerbydau modurol ac roedd wrth ei fodd i weld cyfarpar hyfforddi yr oedd ei dadcu wedi cynhyrchu ar gyfer y Coleg ar ddechrau’r nawdegau.

Bu ymweliad hefyd wedyn i weld Electric Classic Cars, ECC yn Y Drenewydd.  Mae llawer o’r staff ECC wedi cyflawni cyrsiau achrededig IMI yn y Coleg. Aeth y Prif Weithredwr Richard (Moggy) Morgan a Jon Peck, Pennaeth Gwerthiant â’r ymwelwyr ar daith o gwmpas eu prosiectau cyfredol gan drafod sut y mae eu diwydiannau arloesgar ffantastig wedi newid.

Cysylltwch â’r Coleg os gwelwch yn dda os hoffech gael gwybodaeth am gyrsiau cerbydau modur neu’r cyrsiau IMI Cerbydau Trydanol/Hybrid lefel 1- 4.Ffoniwch 0330 818 8100 neu cliciwch ar y ddolen isod.

Cyrsiau Cerbydau Moto