Cadarnhaodd Andrew Davies ei safle yn y rhestr o’r 50 rhedwr gwytnwch gorau’r byd gydag ymdrech ardderchog yn Alpau’r Swistir/Ffrainc.
Mewn parodrwydd i Bencampwriaethau’r Byd 50k a gynhelir ym mis Tachwedd yn India, daeth y darlithydd o Gampws Coleg Y Drenewydd yn yr unfed lle ar bymtheg ar hugain yn y ras OCC lladfaol yn Rowndiau Terfynol cyntaf UTMB a oedd yn cynnwys 1,729 o redwyr o bedwar ban y byd.
Rhedodd Andy y 55km, sy’n cynnwys mwy na 3,300m o dir uchel ymhen 5 awr a 28 munud a daeth yn ail yn y categori oedran cystadleuol 40-45 oed. Byddai’r canlyniad hwnnw wedi ennill y pumed lle iddo’r llynedd, felly mae hyn yn dystiolaeth o ansawdd y rhedwyr eleni.
“Perfformiais yn dda ar nifer o’r incleins ond mae angen i fi wneud llawer o waith wrth ddod i lawr. Collais gryn dipyn o amser yn disgyn,” dywedodd Davies.
“Roedd yr awyrgylch a’r profiad yn wych ac rwy’n bwriadu dod yn ôl, gobeithio. Mae’r coesau’n oce ar hyn o bryd, sy’n syndod mawr i fi. Amser adfer amdani nawr!”
Aeth y ras trwy Champex-Lac, Switzerland, ac ymlaen at y llinell derfyn yn Chamonix, Ffrainc, gan arddangos rhai o’r golygfeydd gorau yn Ewrop.
Enillydd y ras i ddynion oedd Stian Angermund, rhedr gwytnwch chwedlonol o Norwy gydag amser o 4:42:40, a Toni McCann o Dde Affrica oedd enillydd y teitl i fenywod gydag amser o 5:18:21.
Bydd Andy nawr yn troi ei sylw at Bencampwriaethau’r Byd 50k ym mis Tachwedd a gynhelir yn Hyderabad, a dywedodd ei fod yn anelu at amser o dan 5 awr 50 munud.