Mae’n bleser gan Goleg y Drenewydd groesawu darlithydd peirianneg newydd, Andrew Herbert, sydd â llu o brofiad ym maes electroneg.
Mae gan Andrew hanes hir o addysgu’n rhyngwladol, ar ôl dysgu mathemateg, ffiseg, TG ac electroneg o America a De Corea i’r Dwyrain Canol ac yn Ewrop. Dechreuodd ei brofiad diwydiannol yn ôl yn y 90au cynnar ar ôl iddo wneud lleoliad gwaith gyda Control Techniques. Bu’n gweithio’n ddiweddarach i Ferranti Electronics ac yna British Telecom cyn cychwyn ar yrfa fel athro.
Mae diddordeb Andrew mewn electroneg yn mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac arweiniodd at greu system gwirio palet i fesur cyfanrwydd paletau mewn amser real, trwy ddefnyddio synwyryddion trawsddygiadur uwchsain. Cofrestrwyd y ddyfais ar gyfer Gwobr SMART Engineering DT y Llywodraeth.
Mae ychwanegu gwybodaeth Andrew i’r adran wedi galluogi’r Coleg i ymgorffori uned electroneg i’r cyrsiau peirianneg rhan-amser ac amser llawn Lefel 2. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad y Grŵp tuag at gyrsiau Awtomeiddio, Sero net Diwydiant 4 a masnachol a fydd ar gael yn y dyfodol agos.
Mae’r diwydiant cydosod electroneg yn un o’r rhai mwyaf yn y byd, a disgwylir iddo barhau i dyfu – o ddyfeisiau cludadwy, electroneg gwisgadwy, a hyd yn oed ceir hunan-yrru a deallusrwydd artiffisial. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a enillir drwy astudio electroneg yn ddymunol dros ben gan lawer o’n cyflogwyr lleol.
Mae Nidec, Recco, Wipak, Makefast ac RM Group ac eraill yn dibynnu ar naill ai dylunio a gweithgynhyrchu electroneg/roboteg fel eu busnes neu’n dibynnu ar ddefnyddio a chynnal offer o’r fath fel rhan o’u prosesau gweithgynhyrchu, gydag Invertek yn y Trallwng yn buddsoddi yn y busnes yn ddiweddar i greu mwy na 250 o swyddi ychwanegol yn yr ardal dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd Aimee Lane, Pennaeth Peirianneg Grŵp Colegau NPTC: “Rydym yn falch o integreiddio electroneg i’r cyrsiau peirianneg yng ngholeg y Drenewydd. Mae galw cynyddol am y sgiliau hyn gyda chyflogwyr yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae gwybodaeth mewn Peirianneg Electroneg yn mynd y tu hwnt i greu cylchedau electronig a gallant ddatblygu’n arbenigeddau. Mae’r rhain yn sgiliau Diwydiant 4 sy’n bwysig i helpu i yrru’r trawsnewid i sero net. Edrychwn ymlaen at gynnig cyrsiau masnachol mewn electroneg yn y dyfodol agos”.