Yng nghalon Cymru, mae Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn fegwn o gyfleoedd addysgol ar gyfer myfyrwyr o bedwar ban y byd. Ymhlith y straeon ffantastig sydd wedi dod i’r amlwg o fewn i’w neuaddau, mae dau unigolyn ysbrydoledig, Daria Skidkina ac Iryna Yemets yn tynnu sylw arbennig. Mae’r myfyrwyr ESOL hyn, sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer y Gwobrau Inspire, yn ymgorffori gwydnwch, ymrwymiad a gwerthfawrogiad dwfn o ddiwylliant Cymru a’r iaith Saesneg.
Mae Daria Skidkina yn dod o’r Wcráin a dechreuodd daith drawsnewidiol wrth iddi symud i Gymru flwyddyn yn ôl. Ar y dechrau, roedd deall Saesneg yn her enfawr am nad oedd hi’n deall bron 25% o‘r iaith ar lafar. Heb falio dim, rodd penderfyniad Daria i ffynnu yn ei chartref newydd yn golygu ei bod yn cofleidio yn yr iaith.
Trwy gydol ei hymrwymiad di-ffael a chymorth Grŵp Colegau NPTC, mae cymhwysedd Daria mewn Saesneg wedi blodeuo. Mae hi wedi dod yn hyderus yn yr iaith ond mae hi hefyd wedi cymryd y cam penigamp o ddysgu’r Gymraeg, tyst i’w hymroddiad i’w mamwlad fabwysiedig. Ochr yn ochr â’i hastudiaethau Saesneg, mae Daria yn gweithio mewn caffi lleol ac yn adeiladu ar ei gradd gyfredol; yn dilyn gradd fesitr mewn astudiaethau awyrennau o bell trwy brifysgol yn Wcráin. Mae ei brwdfrydedd dros ddysgu yn eglur ac mae hyn yn hyd yn oed yn fwy trawiadol wrth ystyried ei bod yn gorfod gadael ei gartref a symud i Gymru heb ei theulu cyfan.
Ym mis Medi 2022 daeth Iryna Yemets, cyn-newyddiadurwr i Gymru. Sylweddolodd yn gyflym fod Saesneg, yn wahanol i’w hiaith frodorol Wcreineg, yn cyflwyno heriau unigryw. Gydag ychydig iawn o debygolrwydd rhwng Saesneg ac Wcreineg neu Rwseg, roedd yn gweithio’n galed i gael y gorau ar yr iaith anhysbys.
Mae taerni Iryna yn disgleirio wrth weld ei hymdrechion i addasu i’w cartref newydd. Mae hi wedi darganfod cymuned gynnes a chroesawgar yng Nghymru ac mae ei gwaith fel Cynorthwyydd Addysgu yn ei galluogi i gyfrannu’n arwyddocaol i’r tirlun addysgol.
Mae Daria Skidkina ac Iryna Yemets yn ymgorffori grym trawsnewidiol addysg ynghyd â gwydnwch yr ysbryd dynol. Mae eu teithiau o wynebu amawsterau ieithyddol ar y cychwyn cyntaf, hyd at ddod yn aelodau go iawn o’r gymuned yng Nghymru yn dystiolaeth ysbrydoledig o’r cymorth a’r cyfleoedd a ddarparwyd gan Grŵp Colegau NPTC. Mae’r myfyrwyr ESOL hyn, gyda’u hoffter o ddiwylliant Cymreig, yn ogystal â’u penderfyniad di-ffael, yn enghreifftiau disglair o’r hyn y gall gael ei gyflawni wrth i unigolion gael y cyfle i ffynnu mewn amgylchedd newydd. Maent yn haeddu cael eu henwebu ar gyfer y Gwobrau Inspire fel cydnabyddiaeth o’u teithiau anhygoel.