Mae Grŵp Colegau NPTC yn dymuno pob lwc i’w holl fyfyrwyr sy’n cymryd rhan yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK ym Manceinion fis nesaf. Bydd deuddeg o fyfyrwyr yn cynrychioli’r coleg, ar draws saith maes sgiliau. Roedd pob un o’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ymhlith y perfformwyr gorau yn y DU yn eu disgyblaethau priodol yn dilyn cyfres o ragbrofion rhanbarthol.
Bydd myfyrwyr o Grŵp Colegau NPTC yn ymuno â 500 o gyfranogwyr eraill aro bob ran o’r DU i gystadlu mewn ystod o gystadlaethau sgiliau, yn cynnwys Cyfrifeg, Atgyweirio Cerbydau Modur, Garddwriaeth, Technegydd Labordy a Dylunio ar y We (o Goleg Castell-nedd a Choleg Pontardawe) a Melysion a Patisserie, Y Celfyddydau Coginio a Gwasanaethau Bwyty (o Goleg Y Drenewydd).
Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC:
“Mae cystadlaethau sgiliau yn darparu ffordd ffantastig o gael i’n myfyrwyr herio eu hunain a datblygu sgiliau ar lefel uwch a fydd yn cefnogi eu taith tuag at ragoriaeth. Dwi’n hynod o falch o gampau ein myfyrwyr wrth gael eu cydnabod yng nghwmni’r gorau yng Nghymru ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn rowndiau terfynol WorldSkills UK ym Manceinion.”Dywedodd Ian Lumsdaine, Cyfarwyddwr Sgiliau yng Ngrŵp Colegau NPTC:
“Hoffwn ddymuno llongyfarchiadau i’n myfyrwyr sy’n cynrychioli Grŵp Colegau NPTC a Chymru yn rowndiau terfynol WorldSkills UK. Dwi’n gwybod bod y tiwtoriaid yn hynod o falch o gampau ffantastig eu myfyrwyr sydd wedi llwyddo i fynd trwyddo i’r rowndiau terfynol ac yn teimlo eu bod yn haeddu’r gydnabyddiaeth hon yn fawr iawn. Dwi’n siwr bod llwyddiant ein myfyrwyr yn mynd i ysbrydoli eraill sydd am ragori yn eu meysydd sgiliau priodol.”Mae’r cystadlaethau WorldSkills UK wedi’u dylunio gan arbenigwyr y diwydiant ac yn cyfoethogi’r sgiliau a’r wybodaeth ymarferol a ddysgir ar gyrsiau hyfforddi wrth asesu priodoleddau cyflogadwyedd unigolyn yn erbyn meini prawf gosod mewn amgylchedd cystadleuol amseredig. Mae gan gystadleuwyr sy’n perfformio’n dda ym Manceinion y potensial i gynrychioli’r DU mewn cystadlaethau‘Skills Olympics’ yn y dyfodol.
Eleni, cynhelir rowndiau terfynol y DU ym Manceinion Fawr ar draws naw lleoliad, gyda 500 o gystadleuwyr o bedwar ban y DU yn cystadlu rhwng y 14eg a’r 17eg o Dachwedd
Llongyfarchiadau a phob lwc i bob un o’n terfynwyr sy’n cynnwys:
Technegydd Cyfrifeg – Coleg Castell-nedd
- Toni Borgia
- Elena Ciota
- Rebecca Smith
Atgyweirio Cyrff Cerbydau – Coleg Pontardawe
- Jordan Lingham
- Victoria Steele
Melysion a Patisserie – Coleg Y Drenewydd
- Jazmin Williams
Y Celfyddydau Coginio – Coleg Y Drenewydd
- Gabrielle Wilson
Sgiliau Sylfaen: Garddwriaeth – Coleg Castell-nedd
- Joshua Miles
- Connor Blair
Technegydd Labordy – Coleg Castell-nedd
- Morgan Davies
Gwasanaethau Bwyty – Coleg Y Drenewydd
- Abbigail Howes
Dylunio’r We – Coleg Castell-nedd
- Leon Cook