Bu myfyrwyr a staff o adran Arlwyo Coleg y Drenewydd yn paratoi, coginio a gweini pryd tri chwrs blasus i 230 o westeion yng Ngwobrau Busnes Powys 2023 ddydd Gwener 20fed Hydref.
Mae’r seremoni wobrwyo a gynhelir yn Theatr Hafren yn arddangos yr ystod amrywiol o fentrau llwyddiannus yn y sir. Trefnir y digwyddiad gan Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG) gyda chefnogaeth noddwyr. Enillwyd Gwobr gyffredinol Busnes y Flwyddyn Powys a noddwyd gan Gyngor Sir Powys gan Radnor Hills.
Cyflwynwyd y gwobrau, a ddechreuodd yn 2009, am y trydydd tro gan gyflwynydd BBC Cymru, Claire Summers. Côr Meibion Y Drenewydd a’r Cylch oedd yn darparu’r adloniant.
Noddodd Grŵp Colegau NPTC y Wobr Datblygu Pobl, a enillwyd gan Pave Aways.
Dywedodd Kathryn Dunstyn, Cyfarwyddwr Partneriaethau Grŵp Colegau NPTC a gyflwynodd y Wobr, “Mae hon yn wobr briodol i’r coleg ei noddi, dyma’r hyn yr ydym yn sefyll drosto, sef datblygu ein myfyrwyr i gyrraedd eu potensial.” Talodd deyrnged hefyd i waith caled y myfyrwyr arlwyo a fu’n coginio pryd o fwyd bendigedig o dan stiwardiaeth y Prif Gogydd Shaun Bailey ac a fu’n gweini’r gwesteion yn llwyddiannus drwy gydol y noson dan arweiniad Pennaeth yr Ysgol Arlwyo, Amaethyddiaeth a Garddwriaeth Sue Lloyd-Jones.