Bu i fwy na 300 o raddedigion o Grŵp Colegau NPTC roi eu capiau a’u gynau ymlaen ar gyfer seremoni arbennig lle ymunwyd â nhw gan y cymrawd anrhydeddus newydd ei benodi, yr Athro Vivienne Harpwood.
Yn ystod y seremoni flynyddol, a gynhaliwyd yn Arena Abertawe, cafodd carfan fyfyrwyr 2022-2023 eu moment yn y sbotolau o’r diwedd o flaen darlithwyr, teulu, ffrindiau a phwysigion cyn dod yn aelodau newydd o Alumni y Coleg.
Mae’r seremoni’n adlewyrchu’r cysylltiadau y mae’r Coleg wedi’u datblygu gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Wrecsam. Trwy’r partneriaethau hyn, gall Grŵp Colegau NPTC gynnig ystod o Dystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diplomâu Cenedlaethol Uwch, Graddau Sylfaen, Graddau a Chymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd ag enw rhagorol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
At hynny, mae’r Coleg wedi dod yn gorff cysylltiedig o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a ddynodwyd yn Athrofa Technegol Prifysgol Cymru (ATPC), eleni. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Caerdydd a’r Fro, a Choleg Sir Benfro i ddatblygu addysg dechnegol uwch a hyfforddiant ac arloesedd a arweinir gan gyflogwyr. Gan weithio o fewn strwythur cydffederal, caiff y rhwydwaith o Athrofeydd Technegol ei gyfeirio gan anghenion cyflogwyr a’i nod yw hyrwyddo cyfle cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol.
Roedd y Coleg yn falch o ddyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r Athro Vivienne Harpwood, am Wasanaethau i’r Gwasanaeth Iechyd. Athro Emerita ym Mhrifysgol Caerdydd yw Vivienne Harpwood. Bu’n Gyfarwyddwr Cwrs y radd Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol (LLM) am fwy nag 20 mlynedd, y radd Meistr gyntaf o’i bath, a sefydlwyd ym 1987. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, bu iddi gyhoeddi llyfrau a nifer o erthyglau ar gyfraith feddygol a chamwedd, ac mae’n parhau i olygu ‘Butterworth’s Medico-Legal Reports’. Hi oedd golygydd sefydlu’r cyfnodolyn “Medical Law International” ac mae wedi traddodi darlithoedd gwadd ar gyfraith a moeseg feddygol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y DU a thramor. Gwasanaethodd Vivienne ar Bwyllgor Adolygu Cwynion y GIG Llywodraeth y DU, y bu ei argymhellion ym 1994 yn sail i Systemau Cwynion y GIG modern ym mhob un o bedair awdurdodaeth y DU. Roedd hi hefyd yn aelod o’r Grŵp Adolygu Mewnblaniadau Gel Silicôn y Fron. Bu’n gadeirydd Bwrdd Llywodraethiant Ymchwil Canser y DU yng Nghymru ac yn aelod o Grŵp Craidd DNAR-CPR Cymru. Cyflwynodd dystiolaeth lafar i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn ystod taith Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 ac roedd yn aelod o Grŵp Cyfeirio Arbenigol Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.
Yn fwy diweddar mae Vivienne wedi cymryd rhan fel aelod panel yng nghyfres gweminarau trafod Rhaglen Cadeirydd Biofoeseg UNESCO ‘In the Wake of COVID-19’. Hi yw aelod y DU o Bwyllgor Ymchwil Rhyngwladol Adran Addysg De Asia UNESCO ar Gyfraith Iechyd a Biofoeseg ac mae’n cynnal seminarau rhyngwladol ar Gyfraith a Moeseg Feddygol ar gyfer UNESCO. Mae hi wedi ymarfer fel bargyfreithiwr ac wedi rhoi llawer o gyfweliadau gyda’r cyfryngau ar bynciau cyfreithiol a materion moesegol. Ar ôl gyrfa hir fel academydd cyfreithiol, daliodd Vivienne nifer o swyddi yn GIG Cymru gan arwain at ei phenodiad i dymor wyth mlynedd fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Bu hefyd yn gadeirydd Conffederasiwn GIG Cymru ac roedd yn Ymddiriedolwr Conffederasiwn Canolog y GIG yn Llundain. Ar hyn o bryd, Vivienne yw Llywodraethwr Arweiniol Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Royal United Hospitals, Caerfaddon. Mae Vivienne yn falch o fod yn Gymraes ac yn hanu o deulu o Abertawe sy’n mynd yn ôl sawl cenhedlaeth. Treuliodd y rhan fwyaf o’i phlentyndod yno a thraddododd ei darlith gyntaf yn yr hyn a oedd ar y pryd yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe.
Myfyriodd yr Athro Harpwood ar ei dyfarniad gan ddweud:
“Mae’n anrhydedd fawr, rwyf wrth fy modd ac yn hynod o falch. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fwynhau gyrfa hir a ffrwythlon ac mae gweld y myfyrwyr yma, yn dathlu gyda ffrindiau a theulu, a’r llawenydd ar eu hwynebau ar ôl tair blynedd o waith caled, yn wobrwyol iawn. Mae’n gyffrous iawn eu gweld nhw ar ddechrau eu teithiau gyrfa.”
Y Gymrodoriaeth er Anrhydedd yw’r anrhydedd uchaf y gall Grŵp Colegau NPTC ei rhoi i aelodau’r cyhoedd i gydnabod cyfraniad eithriadol a rhagorol at bobl Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Sir Powys a Chymru. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r Coleg wedi dyfarnu cymrodoriaethau i nifer o unigolion gan gynnwys y sêr rygbi Ryan Jones, James Hook a Dan Lydiate, yr actor Michael Sheen, yr Astroffisegydd yr Athro Geraint F. Lewis, y pêl-droediwr Ben Davies a Suzy Drane o Bêl-rwyd Cymru, ymhlith llu o rai eraill.
Yn ei araith yn y seremoni, dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC Mark Dacey:
“Graddio yw un o uchafbwyntiau ein blwyddyn galendr yng Ngrŵp Colegau NPTC. Rwy’n teimlo mor falch o fod yma i ddathlu gyda’n myfyrwyr. Wnes i fy hun ddim graddio nes oeddwn i yn fy nhridegau cynnar, felly rwy’n meddwl bod hyn yn dangos yn union beth yw diben dysgu gydol oes ac rwy’n meddwl ei fod yn dangos pa mor bwysig y mae addysg bellach o ran darparu cyrsiau lefel prifysgol yng Nghymru. I’n holl raddedigion newydd, rydych nawr yn ymuno â’r miloedd o gyn-fyfyrwyr y coleg sy’n ein cynrychioli ni ar draws y byd. Nid dyma ddiwedd y daith ond dechrau pennod newydd yn eich bywyd.”
Os hoffech wybod mwy am Addysg Uwch yng Ngrŵp Colegau NPTC a’n hystod eang o gyrsiau lefel prifysgol, cliciwch y botwm isod.
Addysg Uwch yng Ngrŵp Colegau NPTC