Mae gan Grŵp Colegau NPTC amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser am ddim* ac amser llawn yn dechrau ym mis Ionawr, a fydd yn eich helpu i gael eich addysg yn ôl ar y trywydd iawn, uwchsgilio neu symud ymlaen yn y gwaith, neu hyd yn oed eich rhoi ar ben ffordd at yrfa eich breuddwydion.
Mae gennym ni gyrsiau i bawb, o TGAU, Gwallt, Harddwch a Cholur i Adeiladwaith, Garddwriaeth a Lletygarwch. Yn sicr mae yna rywbeth at ddant pawb.
Gall cyrsiau rhan-amser wella rhagolygon swyddi neu roi hwb i yrfa newydd sbon mewn sawl sector, yn enwedig y rhai lle mae prinder sgiliau. Byddwch yn gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt. Bydd ein cyrsiau yn eich helpu i symud ymlaen yn eich rôl bresennol, neu i newid gyrfa yn gyfan gwbl. Mae ein cyrsiau hyblyg yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn, gyda dosbarthiadau bach yn cynnig cefnogaeth un-i-un.
Lluoswch Eich Sgiliau
Mae Grŵp Colegau NPTC wedi lansio amrywiaeth o gyrsiau rhad ac am ddim a ariennir gan y llywodraeth i helpu oedolion a theuluoedd i wella eu sgiliau rhifedd a mathemateg.
Mae sgiliau rhifedd a mathemateg yn hanfodol ym mhob agwedd ar fywyd. Maent yn datgloi cyfleoedd gwaith, yn eich helpu i gadw rheolaeth ar eich arian, yn eich galluogi i helpu eich plant gyda gwaith cartref neu eich paratoi i gamu’n ôl i addysg neu symud ymlaen yn eich gyrfa.
Mae’r cyrsiau ar gael i drigolion Castell-nedd/Port Talbot 19 oed a throsodd nad oes ganddynt TGAU Mathemateg ar hyn o bryd. Bydd ein cyrsiau rhad ac am ddim trwy Multiply yn adeiladu eich hyder gyda rhifau ac yn eich galluogi i ennill cymhwyster cydnabyddedig. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Gallwch ymrestru ar-lein nawr ar gyfer ein cyrsiau ym mis Ionawr neu ddod i’n nosweithiau agored sydd ar ddod i ymrestru’n bersonol ar y dyddiadau isod:
Dydd Mawrth, 16 Ionawr – Coleg Afan a Choleg Bannau Brycheiniog
Dydd Mercher, 17 Ionawr – Coleg Castell-nedd a Choleg Y Drenewydd
4:30 pm – 7:30 pm
I ddarganfod mwy am y cyrsiau sydd ar gael ym mis Ionawr, ewch i:
*Telerau ac Amodau Cyrsiau Rhan-Amser Am Ddim
- Bydd ffioedd cwrs perthnasol am ddim.
- Gellir cynnal ymgynghoriad i benderfynu ar gymhwysedd a ffrydiau ariannu sydd ar gael, lle bo angen.
- Gall costau ychwanegol megis deunyddiau, aelodaeth broffesiynol a ffioedd arholiad fod yn berthnasol.