Mae myfyrwyr Gwaith Saer yng Ngholeg y Drenewydd wedi bod yn defnyddio’u sgiliau i wneud cypyrddau wal. Dim ond ychydig wythnosau a gymerodd y myfyrwyr i greu’r darnau dodrefn trawiadol hyn sy’n ymarferol ac yn llawn steil.
Mae myfyrwyr Blwyddyn Gyntaf Gwaith Saer Lefel 1 wedi symud ymlaen yn gyflym gan ddatblygu dealltwriaeth o ystod o sgiliau Gwaith Saer ac asiedydd hanfodol. Yn ddiweddar, fe ddechreuon nhw greu cypyrddau wal fel eu prosiect mawr cyntaf i brofi’r sgiliau y maent wedi’u dysgu yn eu tymor cyntaf yn y coleg, gan gyflawni canlyniadau llwyddiannus.
Meddai Steve Davies, myfyriwr, ‘Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych. Rwy’n falch gyda’r canlyniad cyffredinol ac wedi dysgu sut i adeiladu Uniadau Bys, Uniadau Meitrog ac Uniadau Rhigol.’
Dywedodd y Darlithydd Gwaith Saer, Nigel Ogden, ‘Y prosiect oedd gwneud cabinet wal yn dilyn lluniadau manwl, roedd y cabinet yn cynnwys silffoedd a drôr. Cynlluniwyd y prosiect i wella sgiliau’r myfyrwyr gydag offer llaw ac i ymarfer amrywiaeth o uniadau gwaith coed. Mae’r holl fyfyrwyr ar y cwrs wedi gwneud gwaith gwych ar y prosiect hwn ac roeddent yn llawn cyffro i fynd â’r cabinetau adref i ddangos eu sgiliau newydd i’w teuluoedd a’u ffrindiau.
I ddarganfod mwy am gyrsiau gwaith saer yng Ngrŵp Colegau NPTC ewch i’r tudalennau cwrs ar ein gwefan neu dewch i un o’n nosweithiau agored.