Os nad yw astudio’n amser llawn at eich dant, yna gallai prentisiaeth gyda Grŵp Colegau NPTC fod yr union beth rydych chi’n edrych amdano. Gallwch ennill cymwysterau, derbyn tâl a chael gyrfa.
Mae Hyfforddiant Pathways, sy’n rhan o Grŵp Colegau NPTC yn ddarparwr balch sy’n cyflwyno cymwysterau personol, a gydnabyddir gan y diwydiant ar draws Canolbarth a De-orllewin Cymru. Mae ein holl aseswyr â phrofiad a gwybodaeth helaeth o’r diwydiant i gefnogi dysgwyr â’u cymwysterau a chyflogwyr gyda’u teithiau.
Mae gennym raglenni prentisiaeth llwyddiannus iawn gyda chyflogwyr mawr yn ein hardaloedd, megis y DVLA, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Undeb Rygbi Cymru (URC); Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Bwrdd Iechyd Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae prentisiaeth neu ddysgu seiliedig ar waith yn rhoi cyfle i chi ennill profiad gwerthfawr mewn swydd go iawn a chael cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, a’r cyfan wrth ennill cyflog!
Gallwch ddod o hyd i yrfa mewn llawer o feysydd gan gynnwys:
Cyfrifeg, Amaethyddiaeth, Mecaneg Amaethyddol, Gweinyddiaeth Busnes, Gofal / Gofal Iechyd Clinigol, Adeiladwaith, Gofal Plant a Gwaith Chwarae, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Peirianneg, Lletygarwch, Cerbydau Modur, Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Rheoli Manwerthu ac Arwain Timau a Rheolaeth.
Dewch i gwrdd â’n Prentisiaid – Nikki Wellsford
Mae Nikki, prentis Gweinyddiaeth Busnes Lefel 3, yn elwa o bartneriaeth Hyfforddiant Pathways gyda Morland UK (rhan o Interior Products Group); prif wneuthurwr cynhyrchion dodrefnu cwbl orffenedig y DU. Mae Nikki yn gweithio fel Technegydd Ansawdd ym mhencadlys y cwmni yn y Trallwng ac mae’n dilyn ei phrentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes trwy Hyfforddiant Pathways yng Ngholeg y Drenewydd. Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio i gyd-fynd â rôl Nikki gan y gall gymhwyso ei gwaith ysgrifenedig i wahanol agweddau ar ei thasgau o ddydd i ddydd, ac mae’n ei helpu i ddeall y theori sy’n sail i bob agwedd ar y busnes.
Dychwelodd Nikki i fyd addysg ar ôl cymryd blwyddyn allan ac mae’n dweud bod ei phrentisiaeth wedi ei helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i symud ymlaen yn y gweithle. Mae hi’n eiriol dros brentisiaethau, yn enwedig ar gyfer dysgwyr nad ydyn nhw wir yn gwybod ble i ddechrau ar eu llwybr gyrfa ac mae’n dweud bod y rhyddid i ddysgu yn y gweithle heb bwysau asesu yn seiliedig ar arholiadau yn amhrisiadwy. Mae Nikki yn tynnu sylw at y gefnogaeth y mae wedi’i chael gan ei haseswr Pathways sy’n mynychu ei gweithle i gynnal adolygiadau gyda hi ac sydd bob amser wrth law i roi cyngor ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar y cymhwyster – mae ar gael drwy e-bost neu alwad ffôn o hyd.
Canmolodd Nikki hefyd y bartneriaeth rhwng Hyfforddiant Pathways yng Ngrŵp Colegau NPTC a Morland UK ac mae’n credu eu bod yn creu cyfle dysgu rhagorol i brentisiaid.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
E-bost
pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk
Ffôn
Pathways Coleg Castell-nedd: 0330 818 8002
Pathways Coleg Y Drenewydd: 0330 818 9442
Prentisiaethau yng Ngrŵp Colegau NPTC
Yn ogystal â darparu prentisiaethau trwy ein tîm Hyfforddiant Pathways, mae Grŵp Colegau NPTC hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y gall prentisiaid ei wneud i’n sefydliad ac mae’r Coleg yn gyflogwr prentisiaid rhagweithiol, gan ddefnyddio ein partneriaethau hirsefydlog drwy Academi Sgiliau Cymru.
Mae Jack Mainwaring yn brentis marchnata yn yr adran Adnoddau Dynol yng Ngholeg Castell-nedd, yn gweithio ar y cyd â thîm marchnata’r Coleg ac yn ymgymryd â phrentisiaeth Cyfryngau Digidol a Chymdeithasol.
Mae rôl dydd i ddydd Jack yn cynnwys rhedeg sianeli cyfryngau cymdeithasol yr adran AD; hysbysebu swyddi gwag, a hyrwyddo gweithgareddau recriwtio o fewn y Coleg. Mae Jack hefyd yn mynychu digwyddiadau recriwtio personol yn y gymuned leol, gan hyrwyddo’r cyfleoedd yng Ngrŵp Colegau NPTC a manteision gweithio yn y Coleg.
Mae Jack yn ymgymryd â’i brentisiaeth gydag ITeC Abertawe trwy bartneriaeth Academi Sgiliau Cymru, ac mae’n mynychu unwaith bob pythefnos i ddysgu’r theori y tu ôl i farchnata digidol. Mae hefyd yn treulio un diwrnod yr wythnos gyda thîm marchnata mewnol y Coleg, yn dysgu am bob agwedd ar farchnata digidol mewn cyd-destun byd go iawn ac yn derbyn mentora un-i-un gan farchnatwyr digidol profiadol.
Mae Jack yn canmol y rhwydwaith cymorth sydd ar gael iddo trwy’r trefniant cydweithio hwn, ac mae wedi ei helpu i ddatblygu sgiliau a hyder yn ei rôl. Mae’n credu bod prentisiaethau’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n ffynnu mewn amgylchedd dysgu ymarferol, gan ganiatáu iddynt gyrraedd eu llawn botensial. Mantais allweddol bod yn brentis yw gallu dysgu, ennill arian a gweithio ar yr un pryd a derbyn cyngor ac arweiniad gwerthfawr wrth i chi symud ymlaen yn eich gyrfa.
Cliciwch y botwm isod i ddarganfod mwy am weithio fel prentis yng Ngrŵp Colegau NPTC.