Cafodd myfyrwyr Gwaith Coed a Saernïaeth eu hysbrydoli gan arbenigwyr y diwydiant yn ddiweddar wrth i’r Coleg groesawu Digwyddiad Hyb Diwydiant Adeiladu’r Coleg, gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Diwydiant Seiri (IOC).
Roedd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau a chyflwyniadau ynghyd â’r cyfle i siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr ac ymweld â stondinau masnach, yn anelu at arddangos y cyfleoedd gwaith amrywiol sydd ar gael – o’r gadwyn gyflenwi coed ryngwladol a’r DU – i lwybrau gyrfaoedd ym meysydd gwaith coed a saernïaeth, dodrefnu siopau, adfer a dylunio a gweithgynhyrchu.
Roedd hefyd yn rhan o Gynllun Mentora Hyrwyddwyr IOC ac mai Grŵp Colegau NPTC yn un o dim ond deg o golegau ar draws y DU sy’n rhan ohono. Mae’r cynllun yn rhoi chwe myfyriwr gyda thri mentor, sydd i gyd yn arbenigwyr o’r diwydiant a all rannu eu gwybodaeth helaeth a helpu i dywys gyrfaoedd y dyfodol. Helpu pobl ifanc i gael eu hysbrydoli gan bobl yn y diwydiant sydd wrth wraidd hyn oll.
Esboniodd Geoff Rhodes Llywydd IOC:‘’ Mae’r diwydiant coed yn fusnes rhyngwladol amrywiol ac eang iawn ac nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o’i gwmpas nes iddynt ddod yn rhan ohono.
Felly, wrth ddod ag amrywiaeth o bobl at ei gilydd, aethon ni ati i rannu ychydig o’r wybodaeth ysbrydoledig hon a’i wneud yn brofiad diddorol.’’
Roedd siaradwyr gwadd yn cynnwys Ross Baker a Peter Carey o CITB a oedd yn ffocysu ar nodweddion y byd gwaith. Richard Hawkins o’r busnes lleol So Modular, Nick Boulton o TDUK & Truss Rafter Association a oedd yn esbonio cyflenwi deunyddiau crai, ystadegau a materion technegol, cynaliadwyedd a’r agenda werdd. Roly Ward o Medite SmartPly a oedd yn trafod cynhyrchiad MDF ac OSB a datblygiadau technegol, a Neil Summers, Cynghorydd Technegol – Cyngor Allforio Pren Caled Americanaidd.
Clywodd y myfyrwyr am brofiadau gweithio yn y diwydiant dodrefnu siopau a chynllunio mewnol, yn ogystal â chyflwyniad gan Stephanie Evans o CADW a oedd yn canolbwyntio ar waith cadw a’r sector etifeddiaeth.
Dechreuodd y digwyddiad gyda gair o groeso gan Annie Davies, Pennaeth yr Ysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, a chyflwyniad gan Geoff Rhodes, Llywydd IOC.
I gloi’r digwyddiad gair gan gyn-fyfyriwr adeiladu Coleg Castell-nedd, Wayne Probart, sydd erbyn hyn yn Gyfarwyddwr Datblygu Gwerthiant ar gyfer Ante-Holz UK Ltd.
Roedd Wayne wrth ei fodd i ddychwelyd i fan cychwyn ei yrfa a dywedodd ‘’Dwi yma heddiw am fy mod i’n credu mewn pobl ifanc brwdfrydig sydd am ddatblygu eu gyrfa. Dwi’n hoff iawn o Goleg Castell-nedd. Roeddwn i’n fyfyriwr yng Ngholeg Castell-nedd a dwi’n meddwl ei bod hi’n beth pwysig i bobl sydd wedi datblygu gyrfa amrywiol ddod yma a rhannu eu gwybodaeth a helpu i gefnogi pobl ifanc y dyfodol.’’
Roedd yr adborth gan y myfyrwyr gwaith coed yn ffantastig. Dywedodd un myfyriwr gwaith coed Jamie Stokes: ‘’Dwi’n meddwl bod heddiw yn ddigwyddiad da iawn. Roedd yn agor fy meddwl i’r cyfleoedd yn y dyfodol a allai ddod o weithio o fewn i’r diwydiant adeiladu.’’
Ychwanegodd cyd-fyfyriwr Jasmine Kerswell ‘’I fi, fel menyw sydd wrthi’n treulio ychydig o flynyddoedd yn y Coleg, mae’n beth braf gweld menywod yn gweithio yn y diwydiant a’r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael, nid jest i ddynion ond i fenywod hefyd.’’
Nid yw hi byth yn rhy hwyr ymuno â ni. Os byddwch yn gadael yr ysgol yr haf hwn neu os ydych yn oedolyn sydd am uwchsgilio neu newid gyrfa gyda diddordeb mewn Gwaith Coed a Saernïaeth, ewch i’n gwefan.