Mae dau Gynghorydd Llyfrgell y Coleg o Grŵp Colegau NPTC wedi’u cyhoeddi fel Hyrwyddwyr Cymunedol JISC 2024. Roedd Jacinta Jolly ymhlith pymtheg o hyrwyddwyr newydd a ddewiswyd a Laura Hoare yn un o bump a gyrhaeddodd rownd derfynol Cymuned 2024.
Mae rhaglen hyrwyddwyr cymunedol Jisc yn rhoi sylw i unigolion a thimau sy’n mynd yr ail filltir i ddod â’u cymunedau ynghyd ar bynciau sy’n cynnwys technoleg gynorthwyol, deallusrwydd artiffisial, llyfrgelloedd, trawsnewid digidol, ymchwil a mwy.
Mae’r rhaglen, a lansiwyd yn 2020, bellach yn cynnwys chwe deg o hyrwyddwyr wedi’u henwebu ar draws pum categori allweddol: eiriolwr cymunedol, guru technoleg gymunedol, arwr di-glod cymunedol, arloeswr cymunedol a’r gymuned gyfan.
Mae enwebiadau 2024 yn dathlu cyfraniadau rhagorol ar draws y sectorau addysg drydyddol ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys datblygu a dosbarthu adnoddau arloesol, dylunio a gweithredu cwricwla digidol newydd, grymuso dysgwyr â thechnoleg newydd a helpu dysgwyr i dyfu ac addasu.
Enwebwyd Jacinta am fod yn ased aruthrol i’r Gymuned Ymarfer Canolfan Adnoddau Dysgu Llyfrgelloedd AB gyda’i pharodrwydd i gamu i fyny fel y cadeirydd newydd. Mae hi wedi helpu i gynnal momentwm gyda gweithgareddau a digwyddiadau. Dywedodd:
“Mae gweithio gyda chymuned ar-lein Llyfrgelloedd AB Jisc nid yn unig wedi cyfoethogi fy nhwf proffesiynol ond hefyd wedi cryfhau dyfnder y wybodaeth a’r sgiliau y gallaf eu cynnig i Wasanaeth Llyfrgell Grŵp Colegau NPTC. Mae cael fy nghydnabod fel Hyrwyddwr Cymunedol Jisc am fy nghyfraniadau yn anrhydedd wirioneddol, ac mae hefyd yn ategu’r gydnabyddiaeth o waith rhagorol ein gwasanaeth llyfrgell o fewn y sectorau llyfrgell ac addysgol ehangach ledled y DU.”
Dywedodd Laura a gyrhaeddodd y rownd derfynol gymunedol: “Roeddwn nid yn unig wrth fy modd i gael fy enwebu ond hefyd yn hynod ddiolchgar o fod wedi cyrraedd rownd derfynol dyfarniad Hyrwyddwyr Cymunedol JISC. Fel rhywun sy’n cael trafferth gydag ADHD a dyslecsia, rwy’n deall arwyddocâd hanfodol gwasanaethau cynhwysol, gan wybod y gall hyd yn oed y newidiadau lleiaf wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae fy ngallu i hyrwyddo’r achosion hyn yn bosibl oherwydd tîm eithriadol o gefnogol a chymuned wych JISC, y mae eu hawydd i groesawu hygyrchedd a chwilfrydedd am y ffyrdd gorau o gefnogi myfyrwyr Niwroamrywiol wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.”
Mae’r Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell Jo Mather yn hynod falch o Jacinta a Laura. Dywedodd: “Mae Jacinta yn ased i’r coleg, ac mae’n llwyr haeddu cydnabyddiaeth am bopeth y mae wedi’i wneud dros Wasanaethau Llyfrgell Grŵp Colegau NPTC a chymuned ehangach Llyfrgelloedd AB. Mae hi’n arweinydd ymroddedig yn Nhîm Llyfrgelloedd AB Jisc ac wedi croesawu cydweithio ag eraill, gan feithrin ymdeimlad gwirioneddol o gymuned, ac annog rhannu arferion gorau a syniadau. Mae wedi bod yn ychydig wythnosau prysur i Jacinta, gan ei bod hefyd wedi cael dyrchafiad yn ddiweddar, ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn ei bod bellach yn Ddirprwy Bennaeth Gwasanaethau Llyfrgell: y Gogledd.”
Rwyf hefyd yn falch iawn o Laura, a’r gwaith y mae hi wedi’i wneud i hyrwyddo hygyrchedd o fewn y gwasanaethau llyfrgell, a thu hwnt, a bod yn eiriolwr angerddol dros y gymuned niwroamrywiol – arferion sy’n ymestyn er budd ein myfyrwyr niwrolegol-nodweddiadol.
Mae hyrwyddwyr 2024 wedi’u gwahodd i ymuno ag enillwyr blaenorol ac aelodau o’r gymuned yn nigwyddiad addysgu, dysgu ac ymchwil digidol blaenllaw Jisc, Digifest 2024, lle byddant yn derbyn profiad VIP.