Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer Diwrnod Blasu Jazz Gŵyl Jazz Aberhonddu a Grŵp Colegau NPTC 2024.
Yn dilyn llwyddiant blaenorol y ‘Diwrnodau Blasu’, mae trefnwyr Gŵyl Jazz Aberhonddu unwaith eto wedi ymuno â’r Coleg i helpu i’w hyrwyddo. Bydd y digwyddiad eleni yn cael ei arwain gan Goleg Bannau Brycheiniog gyda chefnogaeth ychwanegol gan wahanol adrannau ar draws Grŵp y Coleg.
Mae trefnwyr Gŵyl Jazz Aberhonddu yn awyddus i gynnwys y Coleg unwaith eto ac i ddarparu set sgiliau gwych i fyfyrwyr a allai fod yn amhrisiadwy iddynt mewn gwaith yn y dyfodol. Mae rhai o’r rolau a drafodwyd yn cynnwys myfyrwyr o ffotograffiaeth a dylunio (rhan o’r Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio) yn cynhyrchu posteri ‘Diwrnod Blasu’ a chrysau T i bawb eu gwisgo ar y diwrnod. Bydd myfyrwyr busnes yn trefnu’r digwyddiad, bydd myfyrwyr gwallt a harddwch yn helpu i gael perfformwyr y band yn barod, tra bydd gan fyfyrwyr lletygarwch fwrdd i hyrwyddo’r cynlluniau ar gyfer cyrsiau newydd ym Mannau Brycheiniog, a bydd y myfyrwyr cerdd, sy’n cynnwys Ensemble Jazz y Coleg, yn darparu cerddoriaeth ‘band mawr’ byw.
Yn y gorffennol, mae Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi rhoi cyfleoedd gwaith rhan-amser anhygoel i fyfyrwyr, gan gynnwys gofyn i raddedigion wneud gwaith ôl-gynhyrchu a gwahodd myfyrwyr i ddod yn aelodau o dîm Gŵyl Jazz Aberhonddu ei hun, gan helpu i drefnu penwythnosau yr ŵyl ei hun.
Dywedodd Natalie Downton, Swyddog Marchnata yng Ngholeg Bannau Brycheiniog sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr ac a fu’n gweithio ar y digwyddiad yn flaenorol ei bod wrth ei bodd yn cymryd rhan unwaith eto.
“Cefais amser anhygoel yn gweithio gyda Thîm Gŵyl Jazz Aberhonddu yn 2022, mae wedi rhoi sgiliau gwych i mi rydw i’n eu defnyddio nawr yn fy swydd gyda’r Coleg. Alla i ddim aros i weithio gyda’r tîm eto ar y prosiect cyffrous hwn!”
Dywedodd cyd-drefnwyr yr ŵyl Lynne Gornall a Roger Cannon o Dîm Cynllunio BJF2024: “Rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth y Coleg unwaith eto ac wrth ein bodd gydag egni anhygoel pawb sy’n cymryd rhan. Bydd yn brofiad gwych i fyfyrwyr o ran gweithio trawsddisgyblaethol ac aml-safle go iawn i weithio ar brosiect ar y cyd a arweinir gan Goleg Bannau Brycheiniog a chredwn fod cael yr ystod o gyfranogiad o bob rhan o feysydd pwnc y Coleg, y tîm Marchnata a safleodd eraill y Coleg yn gweithio’n dda iawn. Rydyn ni’n meddwl y bydd Diwrnod Blasu eleni yn bendant yn rhywbeth arbennig!”