Aeth Grŵp Colegau NPTC i Gynhadledd Myfyrwyr Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (ITT) Future You Cymru i’r Byd yr wythnos ddiwethaf.
Roedd Myfyrwyr Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu’r digwyddiad a gynhaliwyd yn Arena Abertawe ac a gefnogwyd gan y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth, ABTA a’r Sefydliad Lletygarwch.
Dyma ddigwydiad cyffrous ar gyfer ein myfyrwyr a chyfle i ddysgu am y cyfleoedd o fewn i’r diwydiant. Roedd ystod o siaradwyr gwadd o bedwar ban y byd, yn cynnwys cyn-fyfyrwyr UWTSD. Roedd cyfle i’r myfyrwyr dreulio’r diwrnod yn gwrando ar straeon ysbrydoledig gan arweinwyr y diwydiant yn ogystal â chael y cyfle i rwydweithio yn y ffair gyrfaoedd rhyngweithiol, gyda stondinau o gyflogwyr lleol neu gwmnïau ar draws y byd.
Roedd y ffair gyrfaoedd yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr yn eu maes o ddewis ac ennill gwybodaeth am y mathau o gyflogaeth ac addysg sydd ar gael iddynt. Dyma gyfle gwych i gael mynediad i’r diwydiant ac mae cael eich gwahodd i ddigwyddiad o’r fath o les mawr o safbwynt datblygu eich gyrfa.
Fel coleg, roeddem yn ddigon lwcus i fynd i’r digwyddiad fel rhan o’r ffair gyrfaoedd i gwrdd â darpar fyfyrwyr ac arddangos ein cyrsiau a’n gyrfaoedd tu fewn i’r diwydiant. Roedd ein Hadran AD yno hefyd i hysbysebu’r swyddi gwag yn y Coleg a dangos i ymwelwyr sut i ddod o hyd i’n swyddi gwag diweddaraf a pha fath o swyddi sydd ar gael o fewn i’r sector addysg.
Nid yw’n rhy hwyr ymuno â ni, os ydych yn gadael yr ysgol yr haf hwn neu’n oedolyn sydd am uwchsgilio neu newid gyrfa neu sydd â diddordeb mewn Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau neu Letygarwch, cliciwch isod.