Unwaith eto, dewiswyd Grŵp Colegau NPTC i gynnal y Gwobrau Ysbrydoli Sgiliau pwysig yn 2024.
Cynhaliwyd partïon gwylio yng Ngholegau Castell-nedd a’r Drenewydd, wrth i’r digwyddiad gael ei gyflwyno gan Mari Lovegreen yn fyw o’r ICC yng Nghasnewydd. Cynhaliwyd partïon gwylio er mwyn i ffrindiau a theuluoedd o bob rhan o Gymru allu gwylio.
Roedd y Coleg wrth ei fodd yn ennill ei gasgliad mwyaf llwyddiannus o fedalau hyd yma gydag wyth medal aur, dwy arian a chwe medal efydd.
Y cyntaf i dderbyn Aur oedd ein tîm Ynni Adnewyddadwy TATA Tide a oedd yn cynnwys y myfyrwyr Peirianneg Charlie Humphrey, Jay Morris, Jessica Cook a Will Miller. Roedd dwy Aur arall yn y gystadleuaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Jodie Riddell a Brooke Williams-Jones ynghyd ag Arian yn yr un gystadleuaeth i Mollie Learoyd-Cross.
Cafodd Gwyddor Fforensig noson wych am yr ail flwyddyn yn olynol gyda dwy Aur; Josh Punchard yn y gystadleuaeth Gwyddor Fforensig a Samuel Morgan yn y gystadleuaeth Technegydd Labordy, gydag Arian i Jackson Cole.
Enillwyd mwy o fedalau yn y Gystadleuaeth Patisserie a Melysion gyda Serah Morgan-Page yn cipio Aur a Jack Lawrence yn ennill yr Efydd. Enillwyd Aur arall gan Tommy Williams yn Sgiliau Cynhwysol: Paratoi Bwyd gydag Ethan Pierce yn cipio’r Arian.
Daeth Wolfram Northmore-Thomas i’r brig gydag Aur yn Sgiliau Cynhwysol: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes, ac enillodd ei gyd-fyfyriwr Sofia Plummer Efydd.
Aeth medalau efydd hefyd i Jaiden Daly yn y gystadleuaeth Sgiliau Adeiladwaith 14-16, Kieran Rees mewn Ailorffennu Cerbydau, Krystal Moorman mewn Garddwriaeth, a Willow Williams mewn Sgiliau Cynhwysol: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes.
Yn olaf, cafodd dau fyfyriwr eu cydnabod fel y ‘gorau yn eu rhanbarth’ sy’n golygu mai nhw dderbyniodd y sgôr uchaf o’r holl gystadlaethau a gynhaliwyd yn eu hardaloedd daearyddol. Enillodd Tommy Williams y gorau yn y rhanbarth i Ganolbarth Cymru a Wolfram Northmore-Thomas i Orllewin Cymru. Am gyflawniad anhygoel!
Mae dros 280 o bobl ifanc dalentog o bob rhan o Gymru wedi cael eu cydnabod am eu sgiliau galwedigaethol rhagorol yng ngwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, gan gipio 96 medal aur, 92 arian a 97 efydd.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfres o gystadlaethau a gynhaliwyd yn Ionawr a Chwefror, lle bu 1,129 – y nifer uchaf erioed – o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru yn cystadlu i gael eu henwi fel ‘gorau’r wlad’ yn eu sector. Roedd y cystadlaethau’n cwmpasu meysydd sgiliau gan gynnwys y celfyddydau coginio, datblygu’r we, peirianneg awyrennol ac ynni adnewyddadwy.
Yn y gystadleuaeth eleni hefyd cafwyd cynnydd cyson a chalonogol yng nghyfranogiad menywod yn y categorïau adeiladwaith a ddominyddwyd yn draddodiadol gan ddynion, gan gynnwys gwaith saer, paentio ac addurno, ac ynni adnewyddadwy, sef 20% o’r cystadleuwyr – cynnydd o 10% ers 2020.
Roedd Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC Mark Dacey yn falch o gyflawniadau’r myfyrwyr, a meddai:
“Mae’r canlyniadau gwych yn siarad drostynt eu hunain, mae’n anrhydedd aruthrol i mi glywed a bod yn rhan o’r llwyddiant a’r canlyniadau anhygoel hyn. Ni fyddai’r noson hon yn bosibl heb waith caled a phenderfyniad pob myfyriwr sydd wedi dewis cystadlu, ond hefyd staff y Coleg a dreuliodd oriau lawer ar ben eu horiau haddysgu arferol yn mentora a hyfforddi ein cystadleuwyr yn barod ar gyfer y cystadlaethau.”
Dywedodd Edward Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Coleg Castell-nedd: “Mae’r ffaith bod cynifer o’n myfyrwyr wedi ennill medalau yn dweud llawer nid yn unig am yr ymrwymiad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei ddangos i’w meysydd crefft ond hefyd am ansawdd yr addysgu a’r hyfforddi sy’n digwydd yn y Coleg. Rydym yn gyson yn gwneud yn dda mewn cystadlaethau ym mhob disgyblaeth, ond mae gweld ystod mor amrywiol o sgiliau yn dod drwodd yn dangos bod myfyrwyr ym mhob maes wedi’u hyfforddi i’r safonau uchaf oll ar draws holl safleoedd y Coleg.”
Ychwanegodd Lisa Brandon, Hyrwyddwr Sgiliau Coleg y Drenewydd: Rwy’n falch iawn o’r holl enillwyr, ac rwy’n edrych ymlaen i weld faint o’r myfyrwyr hyn sy’n mynd ymlaen i gystadlu yn WorldSkills.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn llwyfan perffaith i’n hieuenctid wthio eu ffiniau ac arddangos eu doniau.
“Un o fy mlaenoriaethau ar gyfer economi gryfach yw canolbwyntio ar sgiliau a chreadigrwydd pobl ifanc, gan roi’r cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni dyfodol uchelgeisiol yma yng Nghymru.
“Ar ôl cael y fraint o gefnogi a mynychu nifer o gystadlaethau, gan gynnwys cystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy eleni a gynhaliwyd yn y Senedd, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y gronfa dalent ryfeddol sydd gennym yng Nghymru. Mae’n wirioneddol ysbrydoledig gweld yr unigolion ifanc hyn yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn ymdrechu’n barhaus am ragoriaeth yn eu dewis feysydd.
“Rwy’n estyn fy llongyfarchiadau gwresog i bob un o’r cystadleuwyr ar eu llwyddiannau eithriadol hyd yn hyn. Mae gan bob un ohonoch daith gyffrous iawn o’ch blaen.”
Wrth i Gymru edrych ymlaen, bydd Lyon, Ffrainc, yn cynnal y 47ain gystadleuaeth WorldSkills Rhyngwladol, lle bydd cystadleuwyr o Gymru yn cynrychioli Tîm y DU i gael cyfle i gael eu hanrhydeddu fel y gorau yn y byd am eu sgil galwedigaethol.
Gallwch weld ein horiel lawn ar Facebook