Mae Prentis Bricwaith Grŵp Colegau NPTC wedi ennill teitl o fri ac mae ganddo’r cyfle erbyn hyn i ddod y gorau ym Mhrydain.
Enwyd James Luc Martin, Prentis Lefel 3 mewn Bricwaith o Goleg Castell-nedd fel Uwch Bencampwr Cymru yn y categori Cymreig yng nghystadleuaeth Urdd y Gosodwyr Brics a gynhaliwyd yng Ngholeg Gwent yn ddiweddar.
Mae James yn y drydedd flwyddyn o’i brentisiaeth gyda busnes lleol Watts Brickwork ond yn mynychu’r coleg trwy ein tîm dysgu seiliedig ar waith, Hyfforddiant Pathways.
Cafodd James ei brofi gyda thasg gymhleth Lefel 3 ond llwyddodd i gael y gorau o gystadleuwyr o Gymru gyfan gyda ei safon uchel o gywirdeb a thechneg.
Roedd Edward Jones, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, a oedd yno i weld y gystadleuaeth, wrth ei fodd gyda llwyddiant James a dywedodd:’
‘’Roedd perfformiad James yn y gystadleuaeth yn ffantastig. Roedd ei waith o safon uchel iawn a chynhyrchodd waith o’r ansawdd uchaf a dylai fod yn falch iawn o’i gamp.
Llongyfarchiadau i’w ddarlithydd yn y Coleg hefyd sef John Lewis am y cymorth a’r hyfforddiant ffantastig sydd wedi ei helpu i ddod yn osodwr brics mor dalentog.’’
‘’Pob lwc ar gyfer y rownd terfynol James!’’
Bydd James yn cynrychioli Cymru yn y rownd derfynol o fri yng Ngholeg Rhanbarthol Herts, Turnford ddydd Iau 20 Mehefin 2024.
Sefydlwyd Urdd y Gosodwyr Brics ym 1932 i hyrwyddo a chynnal a chadw safonau uchaf crefftwriaeth mewn bricwaith. Bob blwyddyn, mae’r Urdd yn trefnu cystadlaethau rhanbarthol mewn bricwaith ar lefel Ysgolion Uwch a Chynradd gyda Rownd Derfynol Genedlaethol, dyma uchafwynt y calendr ac yn wobr fawr ei heisiau.
Capsiwn ar gyfer y Llun: Uwch Bencapwr Cymru mewn Gosod Brics, James Luc Martin, gyda Bill Bowman, Llywydd Urdd y Gosodwyr Brics.