Dewch i gwrdd â Torra Durman, 16 oed, myfyriwr Porth Creadigol Lefel 1 yng Ngholeg Castell-nedd sydd yn sicr ar y ffordd i dderbyn A Serennog arbennig wrth ailsefyll ei TGAU Saesneg flwyddyn yn unig ar ôl gadael addysg gartref.
Nid oedd profiad Torra o ysgol uwchradd prif ffrwd yn un cadarnhaol ac o’r herwydd roedd yn golygu mai’r unig amgylchedd yr oedd yn teimlo’n gyfforddus ynddo wrth ddysgu oedd gartref, ond newidiodd hynny i gyd pan gerddodd Torra drwy ddrysau Coleg Castell-nedd. Esboniodd Torra:
”Wnaeth TGAU ddim mynd yn dda i mi, ond y prif reswm dros ymuno â’r Coleg oedd fy mod yn gwybod bod angen i mi gael fy ail-gyflwyno i gymdeithas. Mae’r amgylchedd yma gymaint yn fwy hamddenol a chefnogol nag yn fy ysgol Uwchradd. Roeddwn i’n teimlo bod y pwysau oedd wedi bod ar fy ysgwyddau wedi’i godi, rydw i wedi cael fy annog i gymdeithasu mwy a blaenoriaethu fy iechyd meddwl.’
”Mae’r gefnogaeth a gefais mewn perthynas â’m hunaniaeth a’m hanabledd yn y Coleg wedi bod yn anhygoel ac mor gadarnhaol, a nawr rydw i wir yn teimlo y gallaf esbonio fy mhrofiad heb i neb fy marnu.”
”Mae’r rhesymau hyn wedi gwneud i mi fwynhau dysgu eto ac rwyf wedi gallu rhagori wrth ailsefyll TGAU gan dderbyn A* yn fy ffug arholiad – rhywbeth nad oeddwn yn teimlo oedd erioed yn bosibl. Mae wedi bod yn amgylchedd adsefydlu i mi yn sicr!”
Beth Nesaf? Wel, mae Torra yn bwriadu symud ymlaen i gwrs Lefel 2 Cyfryngau Creadigol ym mis Medi, gan ei fod yn frwd dros greu celf ddigidol ac ysgrifennu, gan ychwanegu ”Rwyf am wneud yn siŵr fy mod yn dysgu cymaint â phosibl yn ystod fy amser yng Ngholeg Castell-nedd.”
Mae Rebecca Hudson, Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Sylfaen wrth ei bodd â chynnydd Torra gan ddweud:
“Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda Torra, ac mae ei wylio yn magu hyder ac yn rhagori nid yn unig yn ei gwrs Coleg a TGAU ond fel person, wedi bod yn wirioneddol anhygoel i’w weld a bod yn rhan ohono. Darparu amgylchedd lle gall unrhyw fyfyriwr ffynnu a thyfu yw’r rheswm pam yr ydych yn mynd i addysgu, a dim ond dyfodol gwych y gallaf ei weld i Torra.”
Capsiwn ar gyfer y Llun: Myfyriwr A* Torra gyda’r Uwch Ddarlithydd Rebecca Hudson