Trefnodd Grŵp Colegau NPTC Ddiwrnod Hwyl i’r Teulu bywiog yng Nghanolfan Gymunedol Croeserw. Nod y digwyddiad Cynllun Ceidwaid Sgiliau, a ariennir gan Gyllid SPF, gyda Chyrchfan Wildfox, Cyngor CNPT, a CGG CNPT, oedd meithrin ymgysylltiad cymunedol tra’n arddangos yr amrywiaeth o gyfleoedd addysgol sydd ar gael yng Nghwm Afan.
Roedd y Diwrnod Hwyl i’r Teulu yn fodd o gyflwyno preswylwyr i’r ystod amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser a gynigir yng Ngholeg Castell-nedd, Coleg Afan, a Chanolfan Adeiladwaith Maesteg. Cafodd y mynychwyr gyfle i archwilio llwybrau addysgol posibl a rhyngweithio â chynrychiolwyr y coleg i ddysgu mwy am eu hopsiynau.
Ychwanegodd gwerthwyr lleol at yr awyrgylch siriol trwy ddarparu byrgyrs blasus, hufen iâ, a gwasanaethau paentio wynebau. Roedd gweithgareddau cyffrous fel bwth lluniau drych hud a gorsafoedd offer ‘rhowch gynnig arni’ wrth fodd ymwelwyr o bob oed, gan feithrin ymdeimlad o lawenydd a chyfeillgarwch trwy gydol y dydd.
Bu adrannau amrywiol o fewn Grŵp Colegau NPTC yn curadu stondinau rhyngweithiol i arddangos eu harbenigeddau. Ymgysylltodd yr adran adeiladwaith â’r mynychwyr gydag arddangosiadau gwneud byrddau ar gyfer tai adar, tra bod yr adran arlwyo a lletygarwch wedi dod â blas arbennig i bawb gyda chacennau a danteithion.
Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Gemma Charnock, Is-Bennaeth: Corfforaethol ac Ysgrifennydd Cwmni’r Grŵp yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant ysgubol y Diwrnod Hwyl i’r Teulu. Roedd yn galonogol gweld aelodau o Gymuned Cwm Afan yn dod at ei gilydd i archwilio cyfleoedd addysgol a mwynhau diwrnod llawn chwerthin a hwyl.”
Tanlinellodd y digwyddiad ymrwymiad Grŵp Colegau NPTC i ymgysylltu â’r gymuned ac allgymorth addysgol, gan gryfhau cysylltiadau â’r gymuned leol tra’n grymuso unigolion i ddilyn eu dyheadau addysgol.
Cynhelir ein digwyddiad nesaf ddydd Mercher Ebrill 17eg lle bydd y Coleg yn fynd i Nghanolfan Gymunedol Noddfa, Glyncorrwg o 4:00 PM – 7:00 PM.