Cafodd grym cydweithredu rhwng addysg a diwydiant ei bwysleisio yng Ngholeg Y Drenewydd wrth iddo groesawu diwrnod anhygoel o archwilio i Roboteg, Peirianneg a TG.
Mae diwydiannau ar flaen y gad fel Reeco Automation yn helpu i lunio’r cwricwlwm yng Ngholeg Y Drenewydd ac roedd y digwyddiad arbennig yn arddangos yr ymuniad rhwng dysgu a chymhwyso go iawn. Ymhlith uchafbwyntiau’r dydd, roedd rhodd hael i’r Coleg o robot arloesgar, gan osod y llwyfan ar gyfer taith ysbrydoledig i ddyfodol technoleg a dysgu ar y cyd.
Gwnaethpwyd y digwyddiad yn bosib trwy bartneriaeth rhwng darparwyr addysg ym Mhowys a busnesau blaengar fel Reeco, a chynhaliwyd gweithdai gyda myfyrwyr o Goleg Y Drenewydd a disgyblion Ysgol Uwchradd Y Drenewydd ac Ysgol Dafydd Llwyd.
Roedd Mike Child, Dirprwy Faer Y Drenewydd a Llanllwchaern, sydd yn gyn athro gwyddoniaeth yn y digwyddiad ysbrydoledig hefyd.
Mae’r gwaith cydweithrediadol hwn yn meithrin ymagwedd ymarferol at addysg STEM gan ddangos datrys problemau gyda chymwysiadau go iawn ac roedd gan Reeco dîm o weithwyr medrus wrth law i helpu myfyrwyr i gael y gorau o’r amser gyda’r robotiaid. Roeddent hefyd yn dysgu sut i raglennu’r robotiaid i gyflawni tasgau amrywiol. Roedd sawl aelodau o’r tîm Reeco yn gyn fyfyrwyr neu’n fyfyrwyr presennol y coleg. Mae’r rhain yn cynnwys Rob Francis, Technegydd Gweithrediadau a oedd wedi astudio weldio a Rheolwr Gweithrediadau, Nick Howells, sef cyn fyfyriwr astudiaethau trydanol. Roedd myfyriwr TG presennol George Trainer yno hefyd ac mae ganddo swydd rhan-amser gyda Reeco. Daeth y cyfle swydd i’r amlwg fel rhan o ddigwyddiad Cyflogwr Preswyl a gynhaliwyd yn y Coleg ac mae’n golygu ei fod wedi cael cynnig am swydd amser llawn ar ôl gorffen ei astudiaethau Lefel 3 mewn TG eleni, gyda chytundeb i gyllido cwrs gradd wedi hynny.
Dywedodd Nick Howells, Rheolwr Gweithrediadau Reeco: “Rydyn ni am gydweithredu â’r coleg lle y bynnag bo hynny’n bosib. Wrth roi’r robot, gobeithiwn fod hyn yn smentio’r berthynas gadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Gobeithiwn fod modd i ni barhau i ymweld â’r Coleg i arddangos atebion newydd i’r myfyrwyr a magu cyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr i gamu ymlaen a gweithio’n lleol.”
Dywedodd Aimee Lane, Pennaeth Peirianneg: “Mae’r adran Beirianneg eisiau dweud diolch i Reeco am drefnu digwyddiad arbennig ac am roi rhodd mor hael sef y robot. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad dysgu unigryw. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â Reeco a’r gymuned leol i ddatblygu a gwella’r profiad dysgu ar gyfer ein myfyrwyr.”
Daethpwyd â’r digwyddiad at ei ben gan Kathryn Dunstan Cyfarwyddwr Partneriaethau Grŵp Colegau NPTC wrth iddi ddweud: “Mae heddiw wedi bod yn ddigwyddiad hynod o lwyddiannus gan ymgyslltu ysgolion lleol a dysgwyr y coleg â chyflogwyr lleol. Mae wedi rhoi cyfle i ddysgwyr weld cymwysiadau go iawn a cwrdd â darpar gyflogwyr.Gobeithiwn barhau â’r ymagwedd gadarnhaol hon ar weithio ac rydyn ni am ddweud diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ei wneud yn ddigwyddiad llwyddiannus a difyr.”