Mae Abdurahim Nino, myfyriwr Mynediad Sylfaen o Goleg Castell-nedd, wedi ennill Gwobr Rhifedd Cwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru 2023/2024.
Dim ond megis cychwyn ar ei daith addysgol yng Nghymru y mae Abdurahim, sy’n 18 oed. Mae’n teithio pellter i’r Coleg, ac nid Saesneg yw ei iaith gyntaf, ond eto roedd ei angerdd am ddysgu a’i ymroddiad i symud ymlaen mewn rhifedd yn amlwg. Ar ben ei gwrs Mynediad Sylfaen, cymerodd Abdurahim hefyd gwrs Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach, gyda ffocws ar ddatblygu ystod o sgiliau megis ysgrifennu, ymchwil, cyflwyno a TGCh.
Ffurfiwyd Cwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru yn wreiddiol fel Urdd Lifrai Cymru ym 1993 gan aelodau o Gwmnïau Lifrai Dinas Llundain a oedd yn dymuno ymestyn y traddodiadau Lifrai yng Nghymru, gan wobrwyo myfyrwyr dawnus i’w hannog i ddatblygu eu sgiliau mewn Addysg Uwch a Chyflogaeth.
Un o brif amcanion y Cwmni yw hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru. Mae’r Cwmni yn cyflawni’r nod hwn trwy Wobrwyo pobl ifanc Cymru er mwyn ‘Meithrin Talent Cymreig’. Bydd hyn yn cynnwys Gwobrau penodol i’r rhai sy’n ymgymryd ag astudiaethau academaidd a galwedigaethol.
Mae’r Gwobrau Rhifedd yn cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn sgiliau Llythrennedd Ariannol a galluogi’r derbynwyr i brynu caledwedd, meddalwedd, llyfrau ac ati i helpu i gefnogi gwelliant parhaus mewn Llythrennedd Ariannol.
Mae Abdurahim yn mynd i wneud yr union beth hynny a defnyddio’r wobr i brynu llyfrau a gliniadur gan ei fod yn bwriadu symud ymlaen i gwrs Mynediad i Addysg Uwch – Gwyddoniaeth yn y Coleg y flwyddyn academaidd nesaf gyda’r uchelgais o ddod yn radiograffydd.
Roedd Cydlynydd Mynediad Sylfaen Coleg Castell-nedd, Martina Syrovatkova wrth ei bodd gyda’r newyddion a dywedodd:
“Diolch i Gwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru am eu cefnogaeth barhaus ac am gydnabod yr ymdrechion y mae Abdurahim wedi’u gwneud yn ei astudiaethau. Mae Abdurahim yn dilyn yn ôl troed yr enillwyr blaenorol, Courtney Harries yn 2022 a buddugwr y llynedd Katryna Hitchin ac mae wedi bod yn fodel rôl gwych i’w gyfoedion. Rwy’n credu bod gan Abdurahim ddyfodol gwych o’i flaen!”