O Gyn-Fynediad i Fydwreigiaeth

Access to a Brighter Future information leaflet.

Mae taith Kim Lockwood, dysgwr sy’n oedolyn o Grŵp Colegau NPTC, o ansicrwydd i lwyddiant, yn dangos yn union pa mor arwyddocaol yw addysg a chymorth.

Roedd Kim yn gwybod lle yr oedd hi eisiau bod yn ei bywyd a bod angen iddi gymryd cam mawr i gyrraedd yno, felly ar ôl gwneud y penderfyniad enfawr i ailsefyll ei chymwysterau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, ymrestrodd am y cwrs Lefel 2 Cyn-Fynediad i Iechyd gyda Grŵp Colegau NPTC.

Esboniodd Kim: “Doedd dim hyder o gwbl gen i o safbwynt academaidd, ond roeddwn i’n gwybod bod angen i fi gymryd y cam enfawr hwn i gyrraedd pen fy nhaith o ddewis”

O’r cychwyn cyntaf, cafodd Kim ei hysbrydoli gan yr amgylchedd maeth a ddarparwyd gan ei thiwtoriaid yn y Coleg.  Roedd eu cymorth yn ei helpu i ymchwilio i’w hansicrwydd gan feithrin cred newydd sbon yn ei galluoedd. Erbyn diwedd y flwyddyn, llwyddodd Kim i ennill Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach.

Diolch i’w chyflawniadau, roedd ganddi’r brwdfrydedd i symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 Mynediad i Iechyd, lle yr oedd yn parhau i llwyddo i’r eithaf o dan arweiniad ei mentoriaid.

Wrth sôn am ei hamser yn y Coleg, dywedodd Kim: “Ar ôl dwy flynedd o fod yng Ngholeg Y Drenewydd, dwi wedi gadael gydag awydd am ddysgu a’r hunan-hyder i wybod bod modd i fi gyflawni unrhyw beth.  Dwi yn yr ail flwyddyn fel darpar-fydwraig a dwi wrth fy modd gyda pob cam o’r daith. ‘’

‘’Dwi mor ddiolchgar am gyfraniad fy nhiwtoriaid wrth fy helpu i gyrraedd fan hyn.  Ymrestru am y cwrs Cyn-Fynediad oedd y peth gorau fy mod i wedi ei wneud erioed.  O ddydd cyntaf y cyfarfod â’m tiwtoriaid, roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith ac yn ymwybodol o’u cefnogaeth.  Aeth y dyddiau a’r wythnosau heibio ac mewn chwinciad roeddwn i wedi cwblhau’r flwyddyn honno gyda Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach.  Roedd hyn yn fy ngalluogi i gymryd y cam nesaf sef y cwrs Lefel 3 Mynediad i Iechyd. Roedd gen i lawer mwy o hyder yn fy ngalluoedd erbyn yr adeg honno o ganlyniad i’r cymorth a’r arweiniad cyson gan fy nhiwtoriaid. “

Ar ôl gadael y coleg, aeth Kim ymlaen i astudio yn y brifysgol; ac erbyn hyn mae hi’n gweithio mewn swydd bydwreigiaeth ar gyfer y GIG.

Roedd ymrestru am y cwrs Cyn-fynediad yn adeg dyngedfennol i Kim, wrth ei rhoi ar y llwybr tuag at gyflawniad a boddhad academaidd.  Mae ei phrofiad yn ysbrydoliaeth i’r holl weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, gan dynnu sylw at effaith ddofn penderfyniad a chymorth wrth wireddu breuddwydion.

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i newid eich bywyd – am fwy o wybodaeth am ein rhaglen Mynediad, ewch i:

Cyrsiau Mynediad